Ymgyrch i godi £10,000 er mwyn achub sinema Blaenau

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

Dywedodd Rhys Roberts bod prosiect Gwallgofiaid yn "fwy na sinema"

Mae ymgyrch wedi dechrau i godi £10,000 er mwyn achub y sinema ym Mlaenau Ffestiniog.

Yn ôl Cwmni Cymunedol Gwallgofiaid, sy'n rhedeg y sinema, mae'n rhaid codi'r arian erbyn diwedd y mis neu bydd rhaid cau'r safle.

Daeth y problemau ariannol ar ôl i gwmni yswiriant wrthod talu am ddifrod a achoswyd yn ystod gaeaf caled y llynedd.

Dywedodd Rhys Roberts, Cydlynydd Cwmni Gwallgofiaid Cyf, ei fod yn ffyddiog y bydd yr ymgyrch yn llwyddo a'i fod yn gobeithio y daw "cymuned Blaenau at ei gilydd er mwyn dyfodol plant a phobl ifanc y dref".

Agorodd y sinema dwy flynedd yn ôl, ac ers hynny mae ffilmiau o bob math wedi bod yn cael eu dangos yn wythnosol.

Mae'r cynllun wedi costio £250,000 hyd yma, gyda £90,000 o hwnnw'n nawdd gan Gyngor y Celfyddydau ac £20,000 pellach gan Gwmni Magnox.

Disgrifiad o’r llun,

Agorodd y sinema 'nôl yn 2016

Yn ôl Mr Roberts, dechreuodd y problemau ar ôl difrod yn ystod gaeaf y llynedd.

"Bach o ddifrod tu ôl i'r radiator system tu ôl i'r sgrin oedd o. Ddaru ni ddim sylwi am sbel gan fod o di cael ei guddio, wedyn roedd hynny wedi achosi dry rot.

"Roedden ni'n gorfod tynnu'r sgrin yn ôl a chael cwmni o Lundain i 'neud hynny, ac wedyn ffeindio bod o wedi effeithio ar offer y sinema hefyd.

"Roedd y cwmni yswiriant yn dweud eu bod nhw'n talu, felly 'naethon ni barhau i ddangos ffilmiau, ond rŵan mae'r cwmni yswiriant wedi tynnu 'nôl a nawn nhw ddim talu."

'Mwy na sinema'

Yn ôl Mr Roberts bydd angen codi'r arian erbyn 12 Rhagfyr neu bydd rhaid i'r sinema gau.

"Yn sicr mi fydd y lle yn cau, ac yn anffodus fydd prosiect Gwallgofiaid, sydd wedi bod yn rhedeg ers 2003 mewn andros o broblemau ariannol hefyd," meddai.

"Rhaid sbïo arno fo fel mwy na jest y sinema. Mae o'n brosiect pobl ifanc ag os dydy o ddim yn cael ei helpu yna fydd 'na ddim prosiectau ifanc creadigol ym Mlaenau."

Hyd yn hyn ychydig dros £1,000 sydd wedi dod i mewn i'r gronfa apêl.