Cymru'n gwneud 14 newid i'r tîm fydd yn wynebu Tonga
- Cyhoeddwyd
![Jonah Holmes](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/976/cpsprodpb/15BD5/production/_104354098_22dcd4db-06b5-4372-9dc3-b3ccfd85c6e8.jpg)
Bydd Jonah Holmes yn gwneud ei ymddangosiad cyntaf ddydd Sadwrn
Mae Cymru wedi gwneud 14 newid i'r tîm i wynebu Tonga ddydd Sadwrn - gyda Dan Biggar a Liam Williams ymysg y rhai sy'n dychwelyd.
Bydd asgellwr Caerlŷr, Jonah Holmes, yn ennill ei gap cyntaf yn safle'r cefnwr, gyda'r clo Adam Beard yr unig un i gadw'i le o'r tîm oedd yn fuddugol yn erbyn Awstralia wythnos diwethaf.
Mae'r blaenasgellwr ifanc Aaron Wainwright yn dechrau yn y rheng-ôl, wrth ochr Seb Davies ac Ellis Jenkins, sy'n gapten.
Bydd Liam Williams, sy'n cychwyn ar yr asgell, yn ennill cap rhif 50.
Yn y rheng-flaen, bydd prop y Scarlets, Wyn Jones, yn dechrau gêm ryngwladol am y tro cyntaf.
Caniatáu cynnwys Twitter?
Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Dydy Cymru erioed wedi colli yn erbyn Tonga, a bydd y garfan yn hyderus o adeiladu ar fuddugoliaethau yn erbyn Yr Alban ac Awstralia yng Nghyfres yr Hydref eleni.
Os fydd Cymru'n ennill yn Stadiwm Principality ddydd Sadwrn, byddan nhw'n sicrhau wythfed fuddugoliaeth yn olynol.
![Presentational grey line](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/464/mcs/media/images/78103000/gif/_78103950_line2.gif)
Tîm Cymru i herio Tonga
Jonah Holmes; Liam Williams, Tyler Morgan, Owen Watkin, Steff Evans; Dan Biggar, Tomos Williams; Wyn Jones, Elliot Dee, Leon Brown, Jake Ball, Adam Beard, Aaron Wainwright, Ellis Jenkins (c), Seb Davies.
Eilyddion: Ryan Elias, Rob Evans, Tomas Francis, Cory Hill, Ross Moriarty, Aled Davies, Rhys Patchell, Josh Adams.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd10 Tachwedd 2018