Y Gynghrair Genedlaethol: Maidstone 1-1 Wrecsam
- Cyhoeddwyd
Mae Wrecsam wedi ildio eu lle ar frig Y Gynghrair Genedlaethol wedi iddynt gael gêm gyfartal oddi cartref yn erbyn Maidstone a oedd yn ddeunawfed yn y tabl.
Cafwyd hanner cyntaf di-sgôr a digon di-fywyd oedd y chwarae er bod Wrecsam wedi cael rhan fwyaf o'r meddiant.
Yna dyma Simon Walton yn sgorio i'r tîm cartref ar ôl 64 munud.
Daeth Wrecsam yn ôl gyda gôl flêr iawn gan Brad Walker i'w gwneud hi'n gyfartal.
Roedd rhai cyfleoedd i'r ddau dîm ar ôl hynny ond nid oedd Wrecsam yn chwarae ar eu gorau ac roedd Maidstone yn siomedig mai gêm gyfartal a gafwyd yn y diwedd.
Mae Wrecsam felly yn ildio eu lle ar frig y tabl.
Bellach mae Leyton Orient a Salford wedi codi uwchben y Dreigiau.
Bydd perfformiad Wresam ar y Cae Ras ddydd Sadwrn nesaf yn allweddol wrth iddynt groesawu Leyton Orient.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd11 Tachwedd 2018