Cymeradwyo cam nesaf adeiladu arena Bae Caerdydd

  • Cyhoeddwyd
Arena CaerdyddFfynhonnell y llun, Cyngor Caerdydd

Mae cabinet Cyngor Caerdydd wedi cytuno i symud ymlaen at gam nesaf prosiect i adeiladu arena fydd yn dal 15,000 o bobl ym Mae Caerdydd.

Yn rhan o'r prosiect, byddai Canolfan Red Dragon yn cael ei ddymchwel a'i ail-adeiladu drws nesaf i'r safle presennol cyn adeiladu'r arena newydd.

Dywedodd y Cynghorydd Russell Goodway, aelod cabinet dros Fuddsoddi a Datblygu bod "llawer o waith i'w wneud", a'r cam nesaf yw cynnal trafodaethau gyda pherchnogion Canolfan Red Dragon a'r tir o'i amgylch.

Mae'r cabinet hefyd wedi cytuno i brynu ardal Parc Britannia yn y bae, gan ddefnyddio'r arian a gafodd y cyngor yn sgil gwerthu'r Sgwâr Canolog i ariannu'r fenter.

Bydd y cynlluniau terfynol yn cael eu hystyried gan y cabinet ym mis Mawrth 2019.