Cam ymlaen i gynlluniau am arena newydd ym Mae Caerdydd
- Cyhoeddwyd
Bydd cynlluniau ar gyfer arena newydd yn cael eu rhoi ger bron cynghorwyr Caerdydd.
Mae'r cynlluniau yn cynnig dymchwel Canolfan Red Dragon er mwyn adeiladu'r arena newydd, fydd yn dal 15,000 o bobl, a chyfleusterau hamdden gerllaw.
Cyhoeddodd y cwmni sy'n rhedeg arena Motorpoint yng nghanol y ddinas eu bod yn awyddus i roi'r gorau i redeg yr arena honno er mwyn rhedeg yr arena newydd.
'Codi proffil'
Mae Caerdydd a Bryste wedi bod yn cystadlu i lenwi bwlch honedig yn y farchnad am arena o'r fath, ond cafodd cynllun am gyfleuster tebyg yn Temple Meads ei wrthod ym mis Medi.
Dywedodd Ysgrifennydd yr Economi, Ken Skates, fod y datblygiad yn "hynod bwysig."
Mae'r Cynghorydd Russell Goodway wedi ymateb i'r cynlluniau drwy ddweud y buasai'r datblygiad yn "rhoi egni newydd i Fae Caerdydd ac yn codi proffil yr ardal fel lle i hamddena."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd9 Chwefror 2018