Cynllun iselder ar gyfer pobl ifanc ar gael yn y Gymraeg
- Cyhoeddwyd
Mae cynllun arbennig i roi cymorth i bobl ifanc sy'n dioddef o iselder ar gael am y tro cyntaf drwy'r iaith Gymraeg.
Cafodd 'Curo'r Felan' ei lwyfannu gyntaf yn Ysgol Dyffryn Conwy, Llanrwst, ac mae'n cael ei redeg drwy'r elusen Action for Children ers mis Ebrill.
Mae'r elusen eisoes wedi bod yn cynnal cyrsiau Saesneg ar hyd a lled y DU dan y teitl 'Blues Programme'.
Yn ôl Catrin Price, sy'n gweithio ar y cynllun, y nod yw rhoi cymorth i bobl ifanc i ddelio gyda sefyllfaoedd gwahanol.
"Be ydy o ydy rhaglen i bobl ifanc rhwng 14 ac 18 oed, rheiny sy'n dangos rhyw fath o iselder, dan straen efo arholiadau, dan straen efo pethau adref a bywyd yn gyffredinol," meddai.
"'Da ni'n mynd i mewn i'r ysgolion a 'da ni'n rhoi'r rhaglen i bobl ifanc i helpu nhw ddygymod efo'r straen i helpu nhw i guro'r felan."
'Cynorthwyo disgyblion bregus'
Yn ôl Catrin Jones, pennaeth cyfnod allweddol pedwar yn Ysgol Dyffryn Conwy, mae'n "hollbwysig" bod y cynllun ar gael drwy'r Gymraeg.
"I ni yn yr ysgol mae'n cynorthwyo disgyblion bregus sydd angen ychydig o gefnogaeth mewn cyfnod eithaf anodd iddyn nhw, boed hynny oherwydd arholiadau neu nifer o resymau eraill," meddai.
"Mae'r cynllun yn rhoi'r sgiliau angenrheidiol sydd angen arnyn nhw i ymdopi mewn cyfnod anodd."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd23 Chwefror 2018
- Cyhoeddwyd31 Ionawr 2018
- Cyhoeddwyd22 Gorffennaf 2018