Drysau Canolfan Cwiltiau Cymru yn cau am y tro olaf
- Cyhoeddwyd

Mae arddangosfeydd o'r cwiltiau wedi cael eu cynnal am y degawd diwethaf
Bydd Canolfan Cwiltiau Cymru yn cau ei drysau am y tro olaf ddydd Sadwrn.
Mae arddangosfeydd o gwiltiau o'r bedwaredd-ganrif-ar-bymtheg a'r ugeinfed ganrif wedi cael eu gweld yn adeilad neuadd y dref Llanbedr Pont Steffan am y degawd diwethaf - ond nawr, mae'r fenyw wnaeth sefydlu'r ganolfan wedi penderfynu ei bod hi'n amser cau.
Yn wreiddiol o New England, pan ddaeth Jen Jones i Gymru am y tro cyntaf yn 1971 yn ei barn hi roedd diffyg gwerthfawrogiad o gwiltiau Cymreig traddodiadol ac ychydig o wybodaeth ynglŷn â threftadaeth cwiltio.
"Erbyn y 1970au roedd cwiltiau Cymreig yn cael eu hystyried yn hen bethau trwm, di-angen," meddai.
"Roedden nhw'n cael eu taflu allan neu'n cael eu defnyddio ar erddi llysiau, neu i atal drafft, neu'n cael eu rhoi ar dractorau neu ar anifeiliaid sâl. Ac roedd y rhain yn gwiltiau da!"
Dywedodd ei bod yn teimlo'n flin gyda'r hyn a welodd hi fel colled 'arteffactau anhygoel'.
Felly, dechreuodd hi gasglu'r cwiltiau - ac fe dyfodd ei chasgliad hyd nes iddo gyrraedd dros 400 o gwiltiau unigol ac unigryw.
"Yr hyn dwi'n ei garu amdanyn nhw yw'r cyfuniad o odrwydd a chelfyddyd fodern.
"Mae'n gyfuniad rhyfeddol sydd ddim i'w gael, dw i ddim yn meddwl, mewn unrhyw draddodiad arall"

Jen Jones: Y ddynes wnaeth godi proffeil y grefft o gwiltio
Ers sefydlu'r Ganolfan Cwiltiau Cymreig yn 2008 mae Jen wedi arddangos y cwiltiau yn neuadd y dref Llambed ac mewn llefydd eraill ar daith.
Mae'r arddangosfa olaf - 'Nos da / Goodnight' - yn edrych yn ôl ar yr holl arddangosfeydd dros y deng mlynedd ddiwethaf.
Mae Jen Jones yn cael ei hystyried fel y person wnaeth adfywio treftadaeth cwiltiau Cymreig yng Nghymru, yn ogystal â chodi proffil y grefft o gwiltio yn rhyngwladol.
Mae ei chasgliad yn cynnwys cwiltiau sydd wedi'u gwneud â llaw o'r 1850au - llawer yn ddyluniadau clytwaith.
Cafodd cwiltiau Cymreig eu llenwi'n aml gyda gwlân oedd wedi'i gasglu o gaeau neu byst ffens, yn ystod cyfnod pan fyddai pobl yn gorfod clytio a thrwsio'r ychydig oedd ganddyn nhw, a dim yn cael ei wastraffu.

Ond yn ystod yr ugeinfed ganrif fe dyfodd cwiltio, a chyrraedd ei anterth cyn yr Ail Ryfel Byd.
"Rhwng 1923, pan ddaeth y llywodraeth i helpu cwiltio yng Nghymru yn ystod y dirwasgiad, a dechrau'r rhyfel roedd yn ddiwydiant cartref llewyrchus," meddai Jen Jones.
"Fe wnaeth y cwiltwragedd fwy o arian bryd hynny nac erioed o'r blaen.
"Doedd y llywodraeth ddim yn talu am y cwiltiau ond roedden nhw'n helpu i gael hyd i brynwyr.
"Fe wnaeth y teulu brenhinol gomisiynu cwiltiau Cymreig, roedd boneddigion Caerdydd yn eu prynu a'r gwestai mawr, yn enwedig Claridges a brynodd y cwiltiau ar gyfer eu gwelâu.
"Dyma oedd yr oes aur i gwiltio ond fe ddaeth i ben pan ddechreuodd y rhyfel."

Cafodd y Ganolfan Cwiltiau Cymreig ei sefydlu yn 2008
Er bod y Ganolfan yn cau ddydd Sadwrn, bydd y siop yn parhau ar agor tan y Nadolig.
Ond sut mae Jen Jones yn crynhoi ei degawd o arddangos cwiltiau yn Llambed?
"Mae hi wedi bod yn wych, yn gyffrous ac yn ddigon i'ch gwylltio ar adegau - ond yn hynod ddiddorol trwy'r adeg ac rwy'n mynd i'w golli'n fawr iawn. Ond bydd yr ymwybyddiaeth o'r cwilt Cymreig yn parhau!"
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd10 Awst 2018
- Cyhoeddwyd25 Medi 2017