Ffrae UKIP dros aelodaeth Tommy Robinson

  • Cyhoeddwyd
Tommy RobinsonFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Tommy Robinson - cyn arweinydd yr EDL

Byddai caniatáu i Tommy Robinson ymuno â rhengoedd UKIP yn rhoi sail i honiadau fod y blaid yn symud ymhellach i'r dde, yn ôl un o Aelodau Cynulliad y blaid Michelle Brown.

Mae arweinydd UKIP Gerard Batten wedi galw am newid rheolau'r blaid er mwyn caniatáu i Mr Robinson, cyn ymgyrchydd gyda'r English Defence League (EDL) ymuno. Mae e am i aelodau'r blaid gael pleidlais ar y mater.

Mae safbwynt Mr Batten yn cael ei gefnogi gan Gareth Bennett, arweinydd UKIP yn y Cynulliad Cenedlaethol.

Dywedodd Mr Batten fod angen i Ms Brown, sy'n cynrychioli rhanbarth Gogledd Cymru, gael ei chynghori yn well.

Mae AC arall, David Rowlands, hefyd yn dweud na ddylid caniatáu i gyn arweinydd yr EDL ymuno â UKIP.

Dywedodd Ms Brown ei bod wedi synnu bod "unrhyw wleidydd Cymreig" yn cefnogi Mr Robinson sy'n ymgyrchydd gwrth-Islam.

Ar hyn o bryd mae UKIP yn gwahardd aelodau o'r BNP a'r EDL rhag ymuno â nhw.

Mae disgwyl i Pwyllgor Gweithredol UKIP drafod cynnig Mr Batten ddydd Sul.

Michelle BrownFfynhonnell y llun, UKIP
Disgrifiad o’r llun,

Dywed Michelle Brown AC ei bod wedi ei synnu

Mewn e-bost at aelodau ei blaid dywedodd Mr Batten y byddai Mr Stephen Yaxley-Lennon (enw iawn Tommy Robinson) yn ased i'r blaid.

Dywedodd Michelle Brown nad yw hi yn erbyn cynnal pleidlais mewn egwyddor "ond byddai caniatáu i gyn aelod o'r BNP a'r EDL i ymuno yn fêl ar fysedd ein gwrthwynebwyr, ac yn rhoi peth sail i honiadau ein bod yn symud i'r dde."

Ychwanegodd fod gan Mr Robinson record droseddol am ymosod, defnyddio cyffuriau a thwyll.

Dywedodd Mr Rowlands y gallai caniatáu aelodaeth i Mr Yaxley-Lennon, weld eraill yn gadael y blaid.

Ond cred Gareth Bennet ei fod yn iawn i aelodau'r blaid gael hawl i leisio eu barn "a byddwn i yn cefnogi ei ddymuniad i ymuno â'r Blaid."

Yn ôl Mr Batten roedd gan Ms Brown hawl i'w barn "ond rwy'n credu ei fod yn anghywir ac wedi ei chynghori yn wael."

Yn ddiweddar fe gafodd honiadau o ddirmyg llys yn erbyn Mr Robinson eu cyfeirio at y Twrne Cyffredinol.

Yn Mai 2018 fe gafodd Ms Brown ei gwahardd o'r Cynulliad am wythnos fel cosb am wneud sylw hiliol am AS Llafur.