Gwahardd AC UKIP o'r Senedd am wythnos am sylw hiliol

  • Cyhoeddwyd
Michelle BrownFfynhonnell y llun, UKIP
Disgrifiad o’r llun,

Methu wnaeth apêl Michelle Brown fis diwethaf yn erbyn dyfarniad y pwyllgor safonau i'w gwahardd dros dro

Mae Aelod Cynulliad UKIP Michelle Brown wedi cael ei gwahardd o'r Cynulliad am wythnos yn ddi-dâl ar ôl iddi wneud sylw hiliol am AS Llafur.

Daeth aelodau pwyllgor safonau'r Cynulliad i'r casgliad fod Michelle Brown wedi torri'r côd ymddygiad yn "ddifrifol" gan ddwyn anfri ar y sefydliad.

Mae Ms Brown wedi ymddiheuro am unrhyw niwed a gafodd ei achosi, ond mae'n dadlau nad oedd y sylw yn hiliol.

Ddydd Mawrth fe wnaeth ACau bleidleisio o 38 i dri o blaid argymhelliad y pwyllgor y dylai Ms Brown gael ei diarddel.

Y tri wnaeth bleidleisio yn erbyn y cynnig oedd Neil Hamilton a David Rowlands o UKIP, a'r AC annibynnol Neil McEvoy. Fe wnaeth AC UKIP arall, Caroline Jones, ymatal ei phleidlais.

Mae'n golygu bod Ms Brown, oedd ddim yn y Siambr yn ystod y bleidlais, wedi ei gwahardd o weithgareddau'r Senedd tan ddydd Iau yr wythnos nesaf.

Dyma'r tro cyntaf i'r Cynulliad gosbi AC yn y modd yma.

Fe gafodd Ms Brown, un o aelodau rhanbarthol y gogledd, ei chyhuddo o ddisgrifio AS Streatham, Chuka Umunna, fel "cneuen goco" - term sy'n cael ei ystyried yn ddilornus a hiliol - mewn galwad ffôn ym mis Mai 2016.

Cafodd y sgwrs ffôn gydag uwch gynghorydd UKIP ar y pryd, Nigel Williams, ei recordio ac fe gafodd y manylion eu cyhoeddi yn ddiweddarach gan bapur newydd y Daily Post.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Roedd disgrifiad Ms Brown o Chuka Umunna yn enghraifft o "gam-drin hiliol" ac yn "gwbl annerbyniol" ym marn aelodau'r pwyllgor safonau

Wedi i Mr Williams roi'r recordiad i'r papur newydd yr haf diwethaf, fe wnaeth ACau Llafur ac eraill, gan gynnwys Leighton Andrews, gwyno i'r comisiynydd safonau, Syr Roderick Evans.

Daeth yntau i'r casgliad nad oedd y sylw'n cwrdd â'r safon ymddygiad sydd i'w ddisgwyl gan ACau.

Wrth wadu torri'r côd ymddygiad mae Ms Brown wedi mynnu mai'r pwynt roedd yn ceisio'i wneud oedd bod magwraeth freintiedig Mr Umunna, er ei etifeddiaeth, yn golygu nad oedd ganddo well ddealltwriaeth o'r problemau sy'n wynebu person du cyffredin.

Wrth ymateb i'r sylwadau ar raglen radio LBC, dywedodd Mr Umunna fod Ms Brown "yn haeddu'r gosb".

Ychwanegodd AS Streatham: "Nid ydw i'n credu y dylai rhywun gyda syniadau fel hyn fod yn rhan o fywyd cyhoeddus".

'24 awr y dydd'

Dywedodd cadeirydd dros dro'r pwyllgor safonau, Paul Davies fod cod ymddygiad ACau yn weithredol "24 awr y dydd... yn ein bywydau preifat a chyhoeddus".

Ychwanegodd nad oedd y pwyllgor, oedd yn cynnwys un o ACau UKIP, wedi gwneud y penderfyniad "ar chwarae bach".

Dywedodd arweinydd Plaid Cymru, Leanne Wood mai "hiliaeth yw hiliaeth, mae'n annerbyniol a does dim lle iddo yn y wlad hon".

Ond mynnodd Mr Hamilton, arweinydd grŵp UKIP: "Mae diarddel unrhyw aelod yn ymyrraeth ddifrifol yn newis democrataidd y bobl [oedd wedi ethol Ms Brown]."

Dywedodd ei bod wedi gwneud ei sylwadau "mewn sgwrs breifat oedd byth i fod i gael ei chyhoeddi" a bod recordiad o'r sgwrs wedi ei gyhoeddi er mwyn "dial" arni.

Ychwanegodd fod gan Aelodau Seneddol ryddid i ddweud beth bynnag y mynnan nhw y tu allan i Dŷ'r Cyffredin, a'i fod yn "ddatblygiad sinistr a brawychus" bod y Cynulliad yn ceisio "plismona" ACau.

Dywedodd Mr McEvoy ei fod yn casáu hiliaeth ond mai'r ffordd i ddelio gyda'r mater oedd "drwy'r blwch pleidleisio".