Apêl wedi lladrad arfog yn Sir Ddinbych

  • Cyhoeddwyd
ceir

Mae Heddlu Gogledd Cymru yn apelio am dystion ar ôl lladrad arfog ym Mhrestatyn, Sir Ddinbych.

Dywedodd llefarydd fod dau ddyn wedi mynd i siop Londis ar Ffordd Isa tua 17:35 ddydd Gwener, gan fygwth staff a dwyn arian.

Roedd un dyn yn gwisgo tracwisg llwyd tra bod y llall â hwdi glas. Roedd wynebau'r ddau wedi eu cuddio.

Dywed yr heddlu y dylai unrhyw un a welodd y digwyddiad neu sydd â gwybodaeth gysylltu â nhw ar 101.