Ymosodiad ar gyn-gapten Cymru
- Cyhoeddwyd

Datgelodd Gareth Thomas ei fod yn hoyw yn 2009
Dywed cyn-gapten tîm rygbi Cymru, Gareth Thomas, ei fod wedi dioddef "trosedd casineb" yng Nghaerdydd nos Sadwrn oherwydd ei rywioldeb.
Mae e wedi diolch i'r heddlu ac wedi gofyn i'r sawl a ymosododd arno i gael "cyfiawnder adferol" am ei fod yn credu mai "dyna'r ffordd orau i bobl ddysgu".
Mewn fideo ar ei gyfrif trydar mae'r cyn-chwaraewr rygbi yn ymddangos gyda chleisiau ac anafiadau i'w wyneb.
Caniatáu cynnwys X?
Mae’r erthygl yma’n cynnwys elfennau sydd wedi eu darparu gan X. Gofynnwn am eich caniatâd cyn eu llwytho, oherwydd fe allai wneud defnydd o cwcis a thechnolegau eraill. Efallai y byddwch am ddarllen polisi cwcis X, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. I weld y cynnwys yma dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Mae Gareth Thomas, 44 oed, o Ben-y-bont ar Ogwr wedi ennill 100 cap i Gymru ac wedi bod yn gapten ar dîm Cymru a thîm Y Llewod.
Datgelodd ei fod yn hoyw yn 2009 gan ddweud ei fod wedi bod yn cuddio ei rywioldeb am flynyddoedd.
Yn y fideo mae Thomas yn dweud: "Neithiwr [nos Sadwrn] roeddwn yn ddioddefwr o drosedd casineb yn fy ninas fy hun a hynny oherwydd fy rhywioldeb."
Mae e'n diolch i'r bobl hynny yng Nghaerdydd a ddaeth i'w helpu gan ddweud: "Mae yna lawer iawn o bobl allan yna sydd am ein brifo ond yn anffodus iddyn nhw mae llawer mwy sydd am ein helpu i wella ac felly rwy'n gobeithio fod y neges yma yn un bositif."
Mae Heddlu De Cymru wedi cadarnhau eu bod wedi holi bachgen 16 oed ar ôl digwyddiad yng Nghaerdydd tua 21:00 nos Sadwrn.
Mewn datganiad dywedodd y llu: "Ar gais Mr Thomas rydym wedi delio â'r achos gyda "chyfiawnder adferol" - mae'r bachgen wedi cyfaddef ei ran yn yr ymosodiad ac ymddiheuro am ei weithred.
"Nod cyfiawnder adferol yw rhoi anghenion y dioddefwr wrth wraidd y system cyfiawnder, a dod o hyd i ddatrysiad positif ac annog pobl ifanc i fod yn atebol am eu gweithredodd."
Ychwanegodd y datganiad: "Does yna ddim lle i droseddau casineb yn ein cymdeithas ac maen nhw'n cael eu blaenoriaethu gan Heddlu De Cymru."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd25 Mehefin 2018
- Cyhoeddwyd25 Hydref 2011