Galw am gefnogaeth Llywodraeth Cymru ar gytundeb Brexit
- Cyhoeddwyd
Mae David Lidington, Gweinidog Swyddfa Cabinet San Steffan, wedi galw ar lywodraethau Cymru a'r Alban i gefnogi cytundeb drafft Theresa May gyda'r Undeb Ewropeaidd.
Roedd Mr Lidington yn siarad cyn cyfarfod cyd bwyllgor gweinidogol y llywodraethau datganoledig ddydd Llun.
Dywedodd Mr Lidington: "Y cytundeb sydd ar y bwrdd yw'r cytundeb Brexit orau i bob rhan o'r Deyrnas Unedig."
Fe wnaeth Theresa May sicrhau cefnogaeth ei chabinet i'r cytundeb drafft ddydd Mercher diwethaf, ond fe ymddiswyddodd rhai o'i Llywodraeth mewn protest.
Yn y cyfamser, mae rhai aelodau seneddol Ceidwadol hefyd wedi galw am ddisodli Mrs May fel prif weinidog.
Ond mae Mr Lidington yn mynnu nad oes modd cael cytundeb gwell.
"Mae busnesau ar hyd a lled y Deyrnas Unedig yn dechrau dangos eu cefnogaeth i sicrhau fod y cytundeb yn cael ei gwblhau," meddai.
"Dyna'r neges glir nes i glywed tra yng Nghymru a'r Alban ddydd Gwener.
"Fe fydd gan wleidyddion ym mhob plaid benderfyniad pwysig i wneud pan fydd y bleidlais yn dod gerbron Tŷ'r Cyffredin.
"Mae'n rhaid pwyso a mesur y risg o wrthwynebu'r cytundeb, cytundeb sy'n rhoi eglurder a sicrwydd y mae busnesau drwy'r Deyrnas Unedig am ei weld," meddai.
"Rwy'n gobeithio cyrraedd pwynt lle fydd holl lywodraethau datganoledig y DU yn gallu cefnogi'r cytundeb terfynol mae'r DU yn ei wneud gyda'r Undeb Ewropeaidd.
"Fe fyddwn yn parhau i weithio'n agos gyda llywodraethau Cymru a'r Alban, a'r gwasanaeth sifil yng Ngogledd Iwerddon er mwyn cyrraedd y nod."
Mae disgwyl y bydd Mark Drakeford Ysgrifennydd Cyllid Cymru a Michael Russell o Lywodraeth yr Alban yn bresennol yn y cyfarfod dydd Llun.
Yn ogystal â Mr Lidington, mae disgwyl y bydd Ysgrifennydd Cymru Alun Cairns, David Mundell, Ysgrifennydd yr Alban a Karen Bradley Ysgrifennydd Gogledd Iwerddon yno.
Fe fydd y cyfarfod yn cael ei gynnal am 12:30 yn Swyddfa'r Cabinet yn Llundain.
Yr wythnos diwethaf dywedodd Carwyn Jones, prif weinidog Cymru y byddai o blaid cynnal refferendwm arall os oedd Theresa May yn cael ei disodli fel prif weinidog heb fod etholiad cyffredinol yn cael ei alw.
Ddydd Gwener ar raglen y Post Cyntaf ar Radio Cymru, dywedodd nad oedd "yn gweld e (y cytundeb drafft) yn mynd drwy San Steffan."
Ychwanegodd mai un o'r problemau oedd bod y cytundeb yn un dros dro ac felly, yn ei farn ef, ddim yn cynnig y sicrwydd sydd ei angen.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd15 Tachwedd 2018