Cymro'n ennill Camp Lawn Dartiau'r PDC
- Cyhoeddwyd
Gerwyn Price yw'r Cymro cyntaf i ennill un o brif bencampwriaethau dartiau'r PDC wedi buddugoliaeth o 16-13 dros Gary Anderson yn ffeinal y Gamp Lawn yn Wolverhampton nos Sul.
Roedd Price, o Fargoed ger Caerffili, ar ei hôl hi o 11-8 cyn cipio wyth o'r 10 cymal olaf i ennill yr ornest.
Ond roedd y rownd derfynol yn ddadleuol gyda'r ddau chwaraewr yn ffraeo'n gyson ar y llwyfan.
Roedd yr Albanwr Anderson wedi gwylltio gan yr hyn yr oedd yn ei ystyried fel chwarae araf a gor-ddathlu gan Price, ac fe wnaeth y ddau ddadlau droeon.
Ni wnaeth y ddau ysgwyd llaw ar y diwedd, ond Price oedd yr un i godi tlws Eric Bristow wrth i'r dorf ei fwio.
Dywedodd Price: "Mae hwn yn golygu lot i fi. Weithiau mae'r dorf gyda chi, weithiau maen nhw yn eich erbyn chi... roedden nhw yn f'erbyn i heno ond mae hynny'n gwneud i fi chwarae'n well.
"Dyw e {Anderson} ddim yn gallu chwarae yn fy erbyn i."
Mae'r bencampwriaeth yn benllanw tymor mwyaf llwyddiannus Price ers troi'n broffesiynol yn 2014.
Roedd eisoes wedi cyrraedd wyth olaf Pencampwriaeth Ewrop a Grand Prix y Byd ynghyd â rownd gynderfynol Cyfres y Byd.
Roedd hefyd yn rhan o dîm Cymru - gyda Mark Webster - ddaeth yn ail ym Mhencampwriaeth y Byd yn 2017.