UCAC: Rhaid ymestyn trefn 'buddiol' athrawon cyflenwi
- Cyhoeddwyd
Mae yna alw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau dyfodol cynllun gafodd ei sefydlu i wella'r drefn ar gyfer athrawon cyflenwi.
Llynedd dechreuodd cynllun peilot sy'n dod ag ysgolion at ei gilydd i gyflogi grŵp o athrawon cyflenwi, ond mae disgwyl i'r cyllid ddod i ben haf nesaf.
Cafodd y cynllun ei sefydlu i geisio ateb pryderon am amodau gwaith a thâl athrawon cyflenwi.
Dywedodd yr Ysgrifennydd Addysg Kirsty Williams y byddai'n ystyried os oedd modd ehangu'r cynllun.
£39m
Mae ffigyrau gafodd eu rhyddhau i raglen Newyddion 9 dan y ddeddf rhyddid gwybodaeth yn dangos bod awdurdodau lleol ac ysgolion wedi gwario £39m ar staff cyflenwi yn 2016/17.
Cyngor Sir Gâr wariodd y mwyaf sef £4.9m;
Cyfanswm gwariant Caerdydd oedd £1.9m;
Y gost i Sir Ddinbych oedd £595,000.
Mae Llywodraeth Cymru wedi buddsoddi £2.7m ar gynllun peilot sy'n gweithredu ar draws 106 ysgol, ac yn cyflogi 50 o athrawon sydd newydd gymhwyso.
Rhybuddiodd undeb athrawon UCAC y byddai'n heriol iawn i ysgolion barhau gyda'r drefn os yw'r cyllid yn dod i ben fis Awst nesaf.
Dywedodd Rebecca Williams, Is-ysgrifennydd Cyffredinol UCAC, bod y cynllun yn edrych yn "fuddiol".
Ond dywedodd: "Mae'n anodd dychmygu ysgolion, yn yr hinsawdd economaidd presennol, yn gallu parhau â'r trefniant ar eu cost eu hunain, felly pwyswn ar Lywodraeth Cymru i barhau â'r cyllid sy'n gwneud hyn yn bosib."
Mae un clwstwr wedi ei ganoli yn Ysgol Gymraeg Ystalyfera Bro Dur, ac yn dod a 12 ysgol at ei gilydd i rannu chwe athro cyflenwi.
Mae Ffion Davies wedi bod yn rhan o'r cynllun ers dechrau'r flwyddyn ac yn gweld ei fod o fudd iddi hi ac i'r disgyblion.
"Nes i damaid bach o gyflenwi cynt - 'da'r clwstwr hyn mae llawer mwy o strwythur o ran ble fyddai'n mynd, a dod yn gyfarwydd â'r ysgolion ac mae'n llawer mwy hwylus," meddai.
"Dyw e ddim mor unig â'r hyn oedd e'n teimlo wrth gyflenwi, dwi'n teimlo bod fi'n rhan o dîm tro hyn."
"Mae'r plant yn dod lan atai yn dweud "Miss Davies", maen nhw'n gwybod pwy ydw i, pa fath o wersi dwi wedi dysgu gyda nhw."
Yn ol Aled Evans Cyfarwyddwr Addysg Cyngor Castell-nedd Port Talbot, mae cost cyflogi staff cyflenwi wedi cynyddu dros y blynyddoedd yn rhannol oherwydd galw cynyddol ar athrawon i fynd ar gyrsiau
Dywedodd y byddai cost y cynllun peilot yn rhan o'r broses o'i werthuso.
"Yn sicr mae 'na fanteision o ran yr addysgu a manteision i'r plant a mae'n rhaid i ni ystyried beth yw gwerth peth felly yn ogystal â beth yw'r gost," meddai.
Yn fwy cyffredinol, mae'r rhan fwyaf o athrawon cyflenwi yn cael eu darparu drwy asiantaethau neu mae ysgolion yn cyflogi athrawon yn uniongyrchol pan fo angen.
Mae asiantaeth E-Qual wedi bod yn darparu athrawon cyflenwi ers 2011 ac mae dros 200 o staff ar eu llyfrau.
Yn ol un o'r Cyfarwyddwyr Carolyn Rahman, mae recriwtio athrawon yn her i bawb ond mae asiantaeth yn gallu cynnig hyblygrwydd.
"Mae prinder ofnadwy o athrawon yn mynd mewn i'r proffesiwn ond tra bo nhw'n gweithio gyda ni, ni yn gallu cadw pobl yn y proffesiwn yn lle gweld bo ni'n colli nhw", meddai.
"Er enghraifft mamau sy moyn gweithio rhan amser falle. Yn lle gorffen dysgu mae nhw'n cario mlaen dysgu ond falle rhan amser."
Hyfforddiant 'drwyadl'
Dywedodd yr Ysgrifennydd Addysg y byddai'r cynllun peilot yn cael ei werthuso a dywedodd bod y llywodraeth hefyd yn ystyried trefn achredu ar gyfer asiantaethau.
"Mae gwerth am arian bob amser yn flaenllaw, yn enwedig pan mae cyllidebau'n anodd mewn cyfnod o gyni ariannol," dywedodd Kirsty Williams.
"Ond yn bwysicach fyth, mae'n rhaid sicrhau bod y bobl hynny sy'n sefyll o flaen ein plant, boed hynny'n barhaol neu'n gwneud gwaith cyflenwi, wedi'u hyfforddi'n drwyadl ac yn gwneud gwaith gwych."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd12 Hydref 2017
- Cyhoeddwyd16 Tachwedd 2017