Tîm dan-19 Cymru yn cyrraedd yr elît
- Cyhoeddwyd

Lewis Collins a Sam Bowen sgoriodd y goliau i Gymru yn Stadiwm Nantporth, Bangor
Mae tîm pêl-droed dan-19 Cymru drwodd i Rowndiau Elît UEFA yn dilyn buddugoliaeth yn erbyn San Marino brynhawn Mawrth.
Mae Cymru wedi bod yn chwarae mewn cystadleuaeth ragbrofol naw niwrnod yn erbyn yr Alban, Sweden a San Marino.
Lewis Collins a Sam Bowen sgoriodd y goliau i Gymru yn eu gêm olaf, wrth i'r gêm arall rhwng yr Alban a Sweden orffen yn gyfartal 2-2.
Mae'r gemau wedi cael eu chwarae ar feysydd Bangor a'r Rhyl, gyda bechgyn Paul Bodin yn llwyddo i orffen yn ail yng ngrŵp pedwar gyda chwe phwynt, un pwynt tu ol i'r Alban ar y brig.
Llwyddodd Cymru i ennill yn erbyn San Marino o 2-0, colli yn erbyn yr Alban o 2-1 a churo Sweden o 2-1.
Gobaith Cymru fydd llwyddo yn y Bencampwriaeth Elit yn gynnar y flwyddyn nesaf er mwyn cyrraedd rowndiau terfynol Pencampwriaeth Dan-19 Ewrop yn Armenia yn 2019.