Ateb y Galw: Jack Quick

- Cyhoeddwyd
Actor a chyflwynydd sy'n dod o Glyn-nedd yw Jack Quick. Mae'n adnabyddus am gyflwyno rhaglen Stwnsh Sadwrn ar S4C, ac am actio rhan Rhys Llywelyn ar Pobol y Cwm.
Yn ddiweddar bu'n lywydd ar Ŵyl Triban yn ystod Eisteddfod yr Urdd Dur a Môr, Parc Margam a'r Fro.
Fe gymrodd saib o'i amserlen prysur i ateb cwestiynau busneslyd Cymru Fyw.
Beth yw dy atgof cyntaf?
Cael gwersi nofio gyda ffrindiau fi, Meg ac Alex, ar nos Wener, wedyn rhoi pyjamas 'mlaen a theithio o Lyn-nedd i'n carafannau ni yn Saundersfoot.
Beth yw eich hoff le yng Nghymru a pham?
Bae Barafundle, achos 'nes i i dreulio lot o amser o gwmpas yr ardal tra'n tyfu lan.

Bae Barafundle, Sir Benfro - hoff le Jack yng Nghymru
Beth yw'r noson orau i ti ei chael erioed?
Anodd dewis ond ges i noson i gofio gyda dau o fy ffrindiau gore, Jack a Jed, blwyddyn yma yn gwylio Stereophonics yn Amsterdam.

Jack a'i ffrindiau yn Amsterdam
Disgrifiwch eich hun mewn tri gair.
Hapus, chwareus, easy-going.
Pa ddigwyddiad yn eich bywyd sydd o hyd yn gwneud i chi wenu neu chwerthin wrth feddwl 'nôl?
Genedigaeth ein merch ni, Jesi Iris Quick.

Jack gyda'i deulu
Beth oedd y digwyddiad a gododd y mwyaf o gywilydd arnat ti erioed?
Pan o'dd nhw 'di galw reg car ni ar draws B&Q i fynd mas a gweld bo' fi heb rhoi yr handbrake on, ac o'dd y car 'di rolio mewn i'r gwrych.
Pryd oedd y tro diwethaf i chi grio?
Wythnos hyn yn watsho y ffilm Brave gyda Jesi.
Oes gennych chi unrhyw arferion drwg?
Nes i ofyn am help gyda'r cwestiwn yma a ges i... 'ddim yn glanhau'r sinc ar ôl siafio'.
Beth yw eich hoff lyfr, ffilm, albwm neu bodlediad a pham?
'Sai'n un am ddarllen ond newydd ffeindio mas am hen hen hen wncwl Griffith Quick wnaeth ysgrifennu llyfr o'r enw Arwyr Affrica. Felly 'na'i ddarllen hwnna gan groesi bysedd bo' 'na lunie!

Arwyr Affrica, nofel gan Griffith Quick sef hen hen hen ewythr Jack
Byw neu farw, gyda phwy fyddet ti’n cael diod a pham?
Elvis Presley. Teulu fi yn ffans mawr ac o'dd Dad arfer gwneud lot o ddigwyddiadau fel Elvis pan o'n i'n tyfu lan. Felly fi'n credu 'na ble mae'r ysfa i berfformio wedi dod.
Dyweda rhywbeth am dy hun nad oes yna lawer o bobl yn ei wybod.
O'n i'n arfer cwympo i gysgu i'r ffilm The Grinch bob nos o fis Tachwedd tan y Nadolig.
Ar dy ddiwrnod olaf ar y blaned, beth fyddet ti’n ei wneud?
Byswn i dramor yn rhywle gyda'r teulu a Wini y ci ac yn cerdded ar hyd y môr a ffeindio bar sy'n gwneud peint o lagyr mewn iced glass, wedyn mynd amdani ar y karaoke.

Wini'r ci yn barod i glywed fersiwn Jack o Hound Dog yn y karaoke
Pa lun sy'n bwysig i ti a pham?
Yr un yma o Bampa fi yn cerdded gyda'r groomsmen i gyd ym mhriodas fy chwaer.

Jack a'i dad-cu, neu 'Bampa', yn ystod priodas ei chwaer
Petaet ti'n gallu bod yn rhywun arall am ddiwrnod, pwy fyddai?
Bethan Ellis Owen i weld os rhaid rili twitsho pan fi'n cam-dreiglo o'i chwmpas hi.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol, TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Hefyd o ddiddordeb
- Cyhoeddwyd13 Ionawr
- Cyhoeddwyd5 Mai
- Cyhoeddwyd29 Ebrill