Sîn werin tref yn 'ffynnu' diolch i gigs Cymraeg

Elidyr Glyn a Gwilym Bowen RhysFfynhonnell y llun, Hari Cennin Roberts
Disgrifiad o’r llun,

Elidyr Glyn a Gwilym Bowen Rhys yn perfformio ar Gei Conwy

  • Cyhoeddwyd

Dros y ddwy flynedd ddiwethaf mae criw o wirfoddolwyr brwdfrydig wedi ceisio hyrwyddo'r Gymraeg yn nhref Conwy.

Mae tipyn o sôn wedi bod yn ddiweddar am y pryder am ddyfodol y sîn werin yng Nghymru.

Yn ôl adolygiad gan Gyngor y Celfyddydau, mae peryg y bydd sin werin Cymru yn dod i ben o fewn cenhedlaeth "heb ymyrraeth frys".

Ond mae trefnwyr yr ŵyl yng Nghonwy yn anghytuno, gan fynnu fod y sîn werin yn y dref yn "ffynnu."

Pwyllgor Cymraeg AberconwyFfynhonnell y llun, Hari Cennin Roberts
Disgrifiad o’r llun,

Aelodau o bwyllgor Cymraeg Aberconwy

Yn ogystal â threfnu'r sesiynau gwerin, sy'n cael eu cynnal ar y cei, mae'r gwirfoddolwyr sy'n rhan o Bwyllgor Cymraeg Aberconwy hefyd yn gyfrifol am Gigs Jac-Do.

Dywedodd Morgan Dafydd sy'n rhan o'r pwyllgor:

"Rydan ni wedi bod yn trefnu gigs byw ers 2023 - doedd Conwy ddim yn rywle oedd yn cael ei ystyried yn le am fiwsig Cymraeg, ond gobeithio drwy'r brand Gigs Jac-Do bydd hynna'n newid."

Aeth yn ei flaen i sôn am yr ymdrech i hyrwyddo'r Gymraeg yn yr ardal.

"Dydi Conwy ddim yn cael ei ystyried yn ardal draddodiadol Gymraeg, ond mae siaradwyr Cymraeg yma'n cuddio, maen nhw jest angen rhywle i fynd a rhywbeth i wneud i ddod a nhw at ein gilydd. Dyna ydi pwrpas be 'da ni'n neud.

"Mae ein digwyddiadau ni yn inclusive i bawb ac mae croeso i unrhyw un, boed nhw'n Gymry Cymraeg, dysgwyr neu'n gwbl ddi-Gymraeg yn ein pethe ni," meddai.

Cei ConwyFfynhonnell y llun, Hari Cennin Roberts
Disgrifiad o’r llun,

Criw yn casglu ar gei Conwy i ganu caneuon Gwerin Cymraeg

Hyd yma mae'r pwyllgor wedi llwyddo i ddenu artistiaid fel Meinir Gwilym, Bwncath, Candelas, Tew Tew Tennau, a Bob Delyn a'r Ebillion gan gynnwys sawl enw mawr arall i leoliadau amrywiol yng Nghonwy.

Mae'r ymateb wedi bod yn "wych" medd Morgan ac mae cynlluniau i drefnu mwy.

"Mae 'na lot o ddysgwyr yn ein cefnogi ni. Mae ystod oedran enfawr o 14 i 90 yn dod i'n gigs 'ni.

"Hefyd mae pobl wedi dechra dod i'n petha ni o siroedd cyfagos fel Gwynedd, Môn a Dinbych, sy'n dangos fod Conwy wedi hawlio lle ar y map o ran 'sîn' gerddoriaeth Cymraeg, ac mae 'na gynlluniau i fynd ymhellach a bod yn fwy uchelgeisiol," meddai.

O ran y sesiynau Gwerin mae'r rheiny wedi profi'n boblogaidd hefyd gyda'r bobl leol yn ogystal â'r ymwelwyr.

Gogs Jac-DoFfynhonnell y llun, Pwyllgor Cymraeg Aberconwy

Yn y digwyddiad mwy diweddar ar y Cei a gynhaliwyd dros y penwythnos roedd gwahoddiad i bobl ddod a'u hofferynnau eu hunain i ymuno yn y canu.

Roedd Gwilym Bowen Rhys ac Elidyr Glyn o'r band Bwncath yn diddanu'r gynulleidfa mewn man hollol gyhoeddus yn y dref ac yn canu caneuon Cymraeg.

"Mae'r ardal ar y cei lle mae'r sesiynau yma'n digwydd yn boblogaidd iawn efo ymwelwyr i'r dref, felly mae'n wych gallu cyflwyno'r iaith a diwylliant Cymraeg i bobl sydd heb brofi rhywbeth fe hyn o'r blaen.

"Mae sawl un yn stopio i dynnu lluniau ac i ofyn beth sydd yn mynd ymlaen, mae 'na ambell un hefyd yn ymuno efo'r hwyl sy'n beth braf i weld," meddai Morgan.

Wrth edrych i'r dyfodol mae'r pwyllgor yn dal yn brysur yn trefnu digwyddiadau gyda chymorth ac anogaeth Menter Iaith Sir Conwy a'u gobaith yw datblygu'r gigs Jac-Do.

Dywedodd Morgan: "Tydi pethau ddim wedi mynd yn berffaith bob tro, ond rydan ni'n dysgu ac yn gwella bob tro.

"Y peth pwysig ydi fod yr awydd yna. Mae bob un ohonom ni'n caru be 'da ni'n neud yma, ac mae'n deimlad braf pan mae pobl yn deud cymaint maen nhw wedi mwynhau'r gigs, neu pan mae siaradwr newydd wedi darganfod band Cymraeg o ganlyniad i un o betha ni."