Ffrainc: Pwy yw'r merched mewn glas?

- Cyhoeddwyd
Bydd menywod Cymru'n chwarae eu hail gêm yn ymgyrch Euro 2025 yn erbyn Ffrainc, yn ninas St. Gallen yng ngogledd-ddwyrain Y Swistir.
Mae Cymru mewn grŵp hynod o heriol sydd hefyd yn cynnwys Yr Iseldiroedd a Lloegr.
Ond beth yw hanes carfan Ffrainc? A pha mor obeithiol allwn ni fod o gael canlyniad calonogol?
Dyma ambell ffaith am y merched mewn glas.
Llysenw a chorff rheoli
Y Fédération Française de Football yw'r corff pêl-droed yn Ffrainc, sef y Ffederasiwn Bêl-Droed Ffrengig.
Mae tîm menywod Ffrainc yn cael eu galw yn Les Bleues, fel tîm y dynion.

Les Bleues yn dathlu eu buddugoliaeth 2-1 yn erbyn Lloegr ar 5 Gorffennaf yn Stadiwm Letzigrund yn Zurich - eu gêm gyntaf yn Euro 2025
Y gêm gyntaf
Gêm gyntaf answyddogol tîm cenedlaethol Ffrainc oedd yn erbyn tîm o Loegr, Clwb Pêl-Droed Dick, Kerr Ladies yn ninas Preston yng ngogledd Lloegr yn 1920.
Roedd tîm Dick, Kerr Ladies, tîm enwog ffatri Dick, Kerr & Co., yn cynrychioli Lloegr. Nhw oedd un o'r timau pêl-droed menywod gorau yn y byd yn y cyfnod.
Roedd y gêm yn un hanesyddol bwysig - mae'n cael ei chyfri fel y gêm ryngwladol menywod gyntaf erioed.
Lloegr oedd yn fuddugol 2-0 y diwrnod hwnnw o flaen torf o 25,000.
Y gêm gyntaf swyddogol oedd yn erbyn Yr Iseldiroedd ym mis Ebrill 1971 yn Hazebrouck, gyda'r Ffrancwyr yn ennill 4-0.
Y rheolwr
Laurent Bonadei yw rheolwr Ffrainc ers mis Awst 2024.
Cyn hynny, ef oedd dirprwy hyfforddwr Ffrainc ers 2023, o dan Hervé Renard, y rheolwr diwethaf.
Mae'r gŵr 55 mlwydd oed hefyd wedi rheoli tîm dynion Saudi Arabia fel rheolwr dros dro (ac fel dirprwy hyfforddwr), ail dîm Nice a thîm dan-19 Paris Saint-Germain.

Laurent Bonadei, rheolwr Ffrainc
Llwyddiannau'r gorffennol
Mae Ffrainc wedi cael cryn dipyn o lwyddiant yn y gorffennol, ac wedi ymddangos yn y pedair bencampwriaeth Euros ddiwethaf - yn 2009, 2013, 2017 a 2022.
Roedd Ffrainc yn drydydd yn Euro 2022 yn Lloegr, ac fe gyrhaeddon nhw'r rowndiau gynderfynol yn y tair bencampwriaeth Euros cyn hynny.
Detholion y byd
Mae Ffrainc yn safle 10 yn netholion y byd FIFA, ac yn ail ymysg gwledydd Ewrop yn netholion UEFA. Yr uchaf mae'r Ffrancwyr wedi cyrraedd yn netholion FIFA yw trydydd, â hynny o Fehefin i Awst 2024.
Mae Cymru'n safle 30 yn netholion FIFA ar hyn o bryd, ac yn 20fed yn Ewrop.
Safle uchaf erioed Cymru yn netholion FIFA yw 29, ac roeddent yn y safle hwnnw o Fehefin i Ragfyr 2018, Awst 2023 ac Awst 2024.
Curo Lloegr a chyrraedd Euro 2025
Trechodd Ffrainc Lloegr 2-1 yn eu gêm gyntaf yn Euro 2025 ar nos Sadwrn 5 Gorffennaf. Sgorwyr Les Bleues oedd yr ymosodwyr Marie-Antoinette Katoto a Sandy Baltimore.
Fe sicrhaodd Ffrainc eu lle yn Euro 2025 drwy orffen yn fuddugol yn eu grŵp rhagbrofol gan ennill pob un o'u chwech gêm - y tîm cyntaf i wneud hynny erioed yng Nghynghrair y Cenhedloedd.
Roedd Lloegr yn yr un grŵp, gan orffen yn ail gydag 11 o bwyntiau, pwynt tu ôl i Ffrainc.
Ffrainc v Cymru
Mae Cymru a Ffrainc wedi wynebu ei gilydd bedair gwaith, gyda Ffrainc yn fuddugol ar bob achlysur.
Yn y gêm gyntaf rhwng y ddwy wlad yn 2011 fe enillodd Ffrainc 4-1, ac yn yr ail gêm yn 2012, 4-0 oedd y sgôr. Yn 2021 enillodd Ffrainc 2-0, ac yn 2022 fe gurodd y Ffrancwyr y Cymry 2-1.

Kenza Dali a Sophie Ingle yn brwydro am y bêl y tro diwethaf i'r ddwy wlad wynebu ei gilydd. Ffrainc oedd yn fuddugol 2-1 yn Llanelli ar 8 Ebrill, 2022
Sêr Les Bleues
Bydd llawer yn dweud mai prif chwaraewr Les Bleues yw Sakina Karchaoui, sy'n chwarae dros Paris Saint-Germain.
Wnaeth Karchaoui, sy'n 29 oed, symud safle yn ddiweddar o fod yn amddiffynnwr chwith i fod yn chwaraewr canol cae. Yn ogystal, mae hi newydd gael ei gwneud yn ddirprwy gapten.
Mae Karchaoui wedi cynrychioli ei gwlad 90 o weithiau ers cael ei chap cyntaf yn 2016, gan chwarae yn y ddwy bencampwriaeth Euros ddiwethaf.
Mewn carfan sydd â nifer o chwaraewyr newydd ynddi, a heb sêr fel Wendie Renard, Eugénie Le Sommer a Kenza Dali, bydd Karchaoui, gyda'i phrofiad a'i dygnwch, yn chwaraewr hynod o werthfawr.
Mae Sandy Baltimore, sy'n 25 oed ac yn chwarae dros Chelsea, yn un arall i wylio.
Symudodd Baltimore o Paris Saint-Germain i Chelsea y llynedd, ac roedd hi'n allweddol i'w llwyddiant ysgubol yn y Women's Super League yn 2024, wrth iddyn nhw ennill y gynghrair, Cwpan yr FA a Chwpan y Gynghrair.
Gyda'i chyflymdra a'i gallu i sgorio, bydd rhaid i garfan Rhian Wilkinson gadw llygaid barcud arni!

Sakina Karchaoui, sydd yn arwain canol cae Ffrainc yn Euro 2025
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Hefyd o ddiddordeb
- Cyhoeddwyd2 o ddyddiau yn ôl
- Cyhoeddwyd2 o ddyddiau yn ôl
- Cyhoeddwyd6 o ddyddiau yn ôl