Garddio yn cynnig 'tawelwch meddwl' i Ffion Emyr

Meinir Gwilym a Ffion EmyrFfynhonnell y llun, Cwmni Da
  • Cyhoeddwyd

Fis Mehefin fe lansiodd Meinir Gwilym bodlediad newydd ar BBC Sounds, Y Podlediad Garddio.

Mae Yws Gwynedd eisoes wedi bod yn westai ar y podlediad, ond tro'r cyflwynydd Ffion Emyr oedd hi yr wythnos hon.

Mae Ffion, cyflwynydd Radio Cymru a Radio Cymru 2, wedi ennill teitl 'Gardd y Flwyddyn Caernarfon' – sy'n destun tynnu coes i lawer o'i ffrindiau – wedi iddi drawsnewid ei gardd yn ei chartref hi a'i gŵr yn y dref.

Ond nid rhywbeth diweddar yw garddio iddi, fel yr eglurodd:

"Pan o'n i'n mynd ar fy ngwyliau i aros efo Nain a Taid, yr ardd oedd bob dim ac oeddan ni'n cael helpu Taid. Roeddan ni'n cael boddhad mawr o hynny."

Gardd y cyflwynydd Ffion Emyr cyn ac ar ôl y dylunioFfynhonnell y llun, Ffion Emyr
Disgrifiad o’r llun,

Gardd y cyflwynydd Ffion Emyr cyn ac ar ôl y dylunio

Mae Ffion, sy'n cymryd hoe o'i rhaglen radio i fynd ar gyfnod mamolaeth, yn dweud nad yw ei gardd hi'n addas i blentyn. Dydi hi ddim yn meddwl bod lle yno i lithren na siglen, ond bosib bod lle i gegin fwd!

"Mae hi'n ardd lle dw i wedi trio'i dylunio hi i fod yn entertainment friendly, ddywedwn i. Felly dw i'n meddwl y bydd angen i mi wneud 'chydig bach o waith i'w gwneud hi'n child friendly."

Dylunio'r ardd

Fel nifer o bobl, prosiect cyfnod clo oedd trawsnewid yr ardd i Ffion a'i gŵr, Gwil.

Doedden nhw ddim wedi symud i mewn i'r tŷ Fictoraidd yng Nghaernarfon ers rhyw lawer ac felly roedd gwaith mawr i'w wneud. Eglurodd Ffion ei bod hi wedi mwynhau dylunio'r tŷ cymaint, aeth hi ati i ddylunio'r ardd yn yr un modd.

"O'n i'n gwybod 'mod i eisiau [i'r ardd fod yn] rhywfath o ddilyniant o'r tŷ – yn stafell arall i'r cartref mewn ffordd.

"O'n i angen gwneud yn siŵr bod yna ddigon o lefydd i fwynhau'r haul yn ystod y dydd. Felly mae yna un section ohoni lle dw i'n gwybod alli di gael panad bach yn bora, neu rhyw jin bach gyda'r nos.

"O'n i isio gwneud yn siŵr bod 'na lecynau gwahanol yn yr ardd. Dw i wedi bod yn bwyta brecwast, cinio a swper yna'n ddiweddar efo'r tywydd braf 'dan ni wedi'i gael."

Podlediad Garddio Meinir Gwilym

Sut fyddai Ffion yn disgrifio ei gardd?

"Mae hi'n ardd reit fodern – lot o waliau du, planhigion piws a gwyn a lot o wyrddni."

Cyn cael ei gwahodd ar y podlediad, doedd hi ddim yn gwybod beth oedd enwau'r planhigion. Ond dywedodd wrth Meinir ei bod "wedi gwneud [ei] gwaith cartref" a rhestrodd y planhigion sydd ganddi: Salvia, Allium, Verbena, Erysimum, Hydrangea ambell i redyn ac ambell i goeden balmwydd.

Garddio er mwyn iechyd a lles

"Mae [garddio] yn lle ac yn amser i gael tawelwch meddwl. Dwi yn licio cael panad allan yn bora, a rhoi dŵr i'r blodau.

"Dw i'n gweld faint o foddhad mae Mam a Dad yn ei gael o arddio, faint o foddhad oedd Taid yn ei gael. Fy rhieni-yng-nghyfraith hefyd – maen nhw'n tyfu llysiau yn eu gardd nhw."

Mae Ffion yn dweud bod tyfu llysiau yn rhywbeth y byddai hithau'n hoffi'i wneud, ond ei fod o'n ymrwymiad amser sydd ganddi dim ohono ar hyn o bryd – yn enwedig gyda babi ar y ffordd.

Ond, meddai Meinir, does dim rhaid i dyfu llysiau fod yn waith caled.

"Dyddiau yma, mae 'na ychydig symudiad tuag at beidio palu. Mewn ffordd, ti jest yn rhoi mwy o mulch ar ben y pridd, ti'n rhoi dy ddail a wedyn compost ar ben y pridd i gadw'r chwyn i lawr.

"A ti'n plannu wedyn i fewn yn hwnnw a wedyn bod gen ti lot fawr o wahanol bethau, rhyw fath o ardd goedwig mewn ffordd.

"Ti'n medru tyfu bwyd mewn ffordd llai traddodiadol mewn un gwely. Er enghraifft, ella 'sa gen ti gyrainj, riwbob ond wedyn, o dan rheina, fysa gen ti bethau gwahanol yn tyfu."

"O'n i angen gwneud yn siŵr bod yna ddigon o lefydd i fwynhau'r haul yn ystod y dydd."

Ffion Emyr yn trafod ei gardd ar y Podlediad Garddio

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig