Y Senedd yn cymeradwyo treth £1.30 y noson ar dwristiaid

Twristiaid ger y mor yn LlandudnoFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Awdurdodau lleol unigol fydd yn penderfynu a ydyn nhw am weithredu'r dreth ai peidio

  • Cyhoeddwyd

Mae cyfraith newydd sy'n rhoi'r grym i gynghorau godi treth ar bobl sy'n aros dros nos yng Nghymru wedi cael ei basio gan y Senedd.

Gallai pobl sy'n aros mewn gwestai weld cost ychwanegol o £1.30 am bob noson y maen nhw'n aros.

Gobaith y llywodraeth yw y byddai'r dreth yn codi hyd at £33m y flwyddyn i gefnogi twristiaeth mewn ardaloedd lleol, ond mae busnesau yn poeni am yr effaith ar nifer yr ymwelwyr.

Cafodd y Bil Llety Ymwelwyr (Cofrestr ac Ardoll) ei basio o 37 i 13 brynhawn Mawrth gan fod Plaid Cymru yn cefnogi cynllun Llafur Cymru.

Ond mae'r Ceidwadwyr wedi addo cael gwared â'r dreth pe bai nhw'n dod i rym yng Nghymru.

Dywedodd yr Ysgrifennydd Cyllid, Mark Drakeford: "Mae ardollau ymwelwyr yn cael eu defnyddio'n llwyddiannus ledled y byd.

"Maen nhw'n sicrhau bod y pwysau a'r cyfleoedd a ddaw yn sgil twristiaeth yn cael eu cydbwyso'n deg rhwng ymwelwyr a thrigolion.

"Rydyn ni eisiau'r un peth i Gymru."

Bwriad Llywodraeth Cymru yw i bobl sy'n aros dros nos yng Nghymru dalu £1.30 + TAW am bob noson maen nhw'n aros mewn gwestai, gwely a brecwast a llety hunanarlwyo, ac yna 75c + TAW ar gyfer aros mewn hosteli a meysydd gwersylla.

Byddai plant yn cael eu heithrio o dalu'r ardoll mewn llety rhatach fel gwersylloedd neu ganolfannau awyr agored yn dilyn tro pedol ym mis Ebrill.

Cafodd y cynllun ei lunio yn sgil pryderon am effaith twristiaeth ar rai cymunedau yng Nghymru.

Dinbych y pysgodFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Fel rhan o'r ddeddfwriaeth, byddai'n rhaid i gynghorau wario'r arian ar reoli a gwella mannau twristiaeth

Awdurdodau lleol unigol fydd yn penderfynu a ydyn nhw am weithredu'r dreth ai peidio, gyda'r drefn newydd yn weithredol o 2027 ar y cynharaf.

Mae rhai cynghorau, gan gynnwys Bro Morgannwg, Rhondda Cynon Taf a Chasnewydd eisoes wedi dweud nad ydyn nhw'n bwriadu cyflwyno'r dreth, tra bod arweinydd Cyngor Caerdydd wedi dweud y byddai'n hoffi ei gyflwyno yn y brifddinas.

Fel rhan o'r ddeddfwriaeth, byddai'n rhaid i gynghorau wario'r arian sy'n cael ei godi ar reoli a gwella mannau twristiaeth.

Gallai hynny gynnwys pethau fel cynnal a chadw toiledau a llwybrau cerdded, hybu'r iaith Gymraeg, glanhau traethau neu gefnogi canolfannau ymwelwyr.

Mae asesiad o'r effaith bosib, gafodd ei wneud fel rhan o'r broses o lunio'r gyfraith, yn dweud y gallai nifer yr ymwelwyr ostwng.

Mae'n nodi y gallai'r ardoll, yn y sefyllfa orau, arwain at greu 100 o swyddi newydd, ond yn y sefyllfa waethaf, gallai arwain at golli 390 o swyddi.

Mae amcangyfrifon am yr effaith ar yr economi yn amrywio o hwb posib o £10.8m, i ergyd posib o £7.3m gan ystyried gwariant cyhoeddus.

Heb ystyried yr arian all gael ei wario gan y sector gyhoeddus o ganlyniad i'r dreth, mae rhagolygon yn amrywio o ergyd ariannol o £9.1m i ergyd o £26.8m.

Ifan Edwards
Disgrifiad o’r llun,

Byddai treth o'r fath yn "helpu'r dre ac yn dod â phres i'r ardal", medd Ifan Edwards o Ddolgellau

Dywedodd Bethan Gwanas Evans o faes carafanau Dolgamedd ger Dolgellau, y bydd rhai yn cwyno os yn gorfod talu ychydig yn fwy i fynd ar wyliau, ond y byddai hi'n disgwyl i'r mwyafrif dderbyn y costau ychwanegol.

"Dydi o ddim yn llawer, os dwi 'di deall yn iawn," meddai.

"Os 'di o'n helpu i gynnal a chadw llwybrau, toiledau cyhoeddus a phob math o bethau felly - dwi o'i blaid o a dwi'n meddwl y bydd ein cwsmeriaid ni hefyd."

Ychwanegodd Ifan Edwards o Ddolgellau na fyddai'n poeni am dalu'r dreth i fynd ar ei wyliau yng Nghymru, gan ddweud ei fod yn hapus "as long fod y pres yn aros yn yr ardal yna".

Ychwanegodd y byddai treth o'r fath yn "helpu'r dre' ac yn dod â phres i'r ardal".

"Ond, 'da chi'm isho codi gormod nag oes, neu 'sa fo'n stopio pobl ddod yma - a da' ni'n dibynnu ar dwristiaid."

Sammi Rogers
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Sammi Rogers y byddai cyflwyno treth ar dwristiaid "wirioneddol" yn gallu effeithio ei busnes

Dywedodd Sammi Rogers, sy'n rhedeg siopau Aran Hufen Ia yn Y Bala a Dolgellau, na fyddai'r dreth yn dda i'w busnes.

"Dwi'n meddwl os ydy rhywun yn penderfynu rhwng mynd ar wyliau i Sir Amwythig a Chymru, a bod y pris ychydig yn uwch - gallai hynny eu gwthio i fynd i ardal wahanol oherwydd costau byw teuluoedd."

Ychwanegodd y byddai hynny "wirioneddol yn medru ein heffeithio".

Un na fyddai'n "croesawu" y dreth ydy Mark Joy, oedd ar wyliau yng ngogledd Cymru.

"Mi fyswn i dal yn dod i Gymru, ond mae popeth wedi mynd i fyny llawer yn ddiweddar ac mae hyn yn ychwanegu ato.

"Felly di'o ddim yn rhywbeth rydym eisiau ei dalu ac rydym yn cael ein gorfodi mewn iddo."

'Ardollau yn gyffredin o amgylch y byd'

Yn ôl Cynghrair Twristiaeth Cymru, mae'r ffordd y mae'r gyfraith wedi cael ei llunio yn golygu na fydd rheidrwydd ar gynghorau i wario'r arian ar dwristiaeth.

Dywedodd Suzy Davies o Grŵp Twristiaeth Canolbarth Cymru fod yr ardoll "ddim yn dreth ar dwristiaid rhagor" gan y byddai'n berthnasol i "unrhyw ymwelydd i lety gwyliau am unrhyw reswm".

Mae llefarydd y Ceidwadwyr Cymreig ar gyllid, Sam Rowlands yn dweud y byddai'r cynlluniau "yn niweidio'r economi ac yn arwain at golli miliynau o bunnau a channoedd o swyddi bob blwyddyn".

Yn ôl Luke Fletcher o Blaid Cymru, fe fyddai'r gyfraith yn rhoi cyfle i gynghorau "ddechrau ar y siwrnai tuag at sector dwristiaeth sy'n gweithio i fusnesau a thwristiaid".

Dywedodd Reform UK y byddai treth o'r fath yn "niweidio busnesau lleol ac yn arwain at golli swyddi yng nghefn gwlad".

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.