Lluniau Gŵyl Rhuthun 2025
- Cyhoeddwyd
Roedd Rhuthun yn llawn dop dros y penwythnos wrth i gannoedd fynd i'r dref yn y gogledd ddwyrain i fwynhau cerddoriaeth a chymdeithasu.
Roedd dathliadau Top Dre, sy'n cloi wythnos o ddigwyddiadau yng Ngŵyl Rhuthun, yn cynnwys corau ac ysgolion lleol ac artistiaid fel Yws Gwynedd, Welsh Whisperer, Gwilym a TewTewTennau.
Mae'r ŵyl yn cael ei chynnal ers 1994 ac wedi ei hysbrydoli gan ddigwyddiad tebyg yn nhref Briec yn Llydaw, sydd wedi gefeillio gyda Rhuthun. Mae wedi tyfu o un diwrnod i wythnos o ddigwyddiadau.

Disgyblion Ysgol Borthyn, Rhuthun, yn edrych yn hafaidd iawn

Steel Drummers ar Lwyfan y Cloc, un o ddau lwyfan i berfformwyr

Meibion Marchan yn mynd i hwyliau ar y llwyfan...

... ac oddi ar y llwyfan

TewTewTennau, y grŵp o Lansannan

Roedd digon o amrywiaeth i ddiddanu pobl o bob oed




Roedd yr haul yn gwneud cymdeithasu yn y sgwâr yn haws...

... ond gweithio yn fwy sychedig

Sgwn i pwy mae'r dyn yma yn ei wylio?

... y Welsh Whisperer efallai?

Ifan Pritchard, o'r band Gwilym

Yws Gwynedd a'i fand oedd yn cloi'r noson

Ac roedd y dorf yn ei morio hi - 'O mae bywyd mor braf...'
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Hefyd o ddiddordeb:
- Cyhoeddwyd7 Mai
- Cyhoeddwyd4 o ddyddiau yn ôl
- Cyhoeddwyd28 Mehefin