Y Cymro yn India sy'n rhannu hanes Cymru gyda miloedd ar y we

Dyn yn eistedd ar ris mewn parc gyda chi yn y cefndirFfynhonnell y llun, Niklas George
Disgrifiad o’r llun,

Niklas George o'r Rhyl yn ninas Pune

  • Cyhoeddwyd

Mae Niklas George, cyn athro Addysg Grefyddol o'r Rhyl, bellach yn byw yn ninas Pune yng nghanolbarth orllewin India.

Ers Tachwedd 2023, mae o'n rhedeg cyfrif poblogaidd Welsh Histories ar y cyfryngau cymdeithasol lle mae'n rhannu hanes Cymru gyda miloedd o ddilynwyr o bedwar ban byd – 68,000 ar Facebook, dolen allanol ac 18,000 ar Instagram., dolen allanol

Yn eu plith mae enwogion megis yr actor Iwan Rheon a'r cyflwynydd teledu Eamonn Holmes.

Mae Niklas hefyd yn golygu cylchgrawn o'r un enw., dolen allanol

Ond sut wnaeth hogyn o'r Rhyl ddod i fyw yn India a chael gyrfa yn sgwennu am hanes Cymru?

Niklas a'i wraig Sally yn priodi yn Hydref 2023Ffynhonnell y llun, Niklas George
Disgrifiad o’r llun,

Niklas a'i wraig Sally yn priodi yn Hydref 2023

Stori garu 'fel ffilm Bollywood'

Symudodd Niklas i India ym mis Hydref 2023. Roedd mewn perthynas hir dymor, pellter-hir gyda'i bartner ar y pryd, Sally, sy'n dod o India. Wnaeth y ddau gwrdd wrth weithio i'r un cylchgrawn ar-lein.

Penderfynodd y ddau briodi, ac felly wnaeth Niklas symud allan i dalaith Maharashtra i fyw gyda'i wraig.

Esbonia Niklas: "Roedd hynny'n risg mawr mewn ffordd, oherwydd roedd gen i yrfa yng Nghymru fel athro addysg grefyddol llawn amser. Ond roedd yn werth gwneud yn amlwg!

"Mae'r stori fel ffilm Bollywood!"

Sefydlu Welsh Histories

Ei wraig Sally wnaeth annog Niklas i gychwyn tudalen Facebook yn postio am wahanol elfennau o hanes Cymru. Roedd hi'n awyddus iddo ledaenu ei angerdd dros hanes y wlad – ond mae hefyd wedi bod yn ffordd i Niklas allu ymdopi gyda'i hiraeth dros wlad ei febyd.

"Dwi yn colli Cymru ar adegau, ac yn teimlo'r hiraeth yna am adref yn bendant. Ac mae rhannu hanes Cymru fel dwi'n gwneud bob dydd wedi gwneud imi ddysgu gymaint am hanes fy ngwlad, sy'n wych," meddai Niklas.

'Obsesiwn' gyda hanes Cymru

Mae Niklas wastad wedi ymddiddori yn hanes Cymru ers yn blentyn.

"Fel plentyn mi o'n i'n ymwybodol o Owain Glyndŵr a rhyw hanesion fel yna, ac yn mwynhau dysgu am yr elfennau yma o hanes Cymru. Dros y blynyddoedd fe drodd hyn yn fwy o obsesiwn, i ddweud y gwir!

"Dwi'n caru'r elfennau hynny o hanes Cymru sy'n annisgwyl, ychydig out of left field."

Logo, sef draig yn chwythu tan ar gefndir cochFfynhonnell y llun, Niklas George

Astudiodd Niklas radd Hanes ym Mhrifysgol Lerpwl John Moores, cyn hyfforddi i ddod yn athro Addysg Grefyddol.

Bu'n dysgu mewn gwahanol ysgolion yng ngogledd Cymru am dair blynedd, cyn symud i India.

Esbonia Niklas: "Dwi byth wedi gweld fy hun fel arbenigwr ar hanes Cymru o gwbl, a dwi dal ddim, i fod yn onest!

"Yn hytrach, dwi'n gweld fy hun fel rhywun sy'n dal i ddysgu ac yn dal i astudio hanes fy ngwlad, ac yn rhannu'r siwrnai yna gyda darllenwyr a dilynwyr Welsh Histories."

Codi ymwybyddiaeth

Yn ôl Niklas, ei brif amcan wrth sefydlu cyfrif Welsh Histories oedd codi ymwybyddiaeth am hanes Cymru.

Mae'r rhan helaeth o ddilynwyr Niklas o Gymru, sy'n ceisio ailgysylltu gyda hanes eu gwlad. "Dwi'n credu bod lot ohonyn nhw'n difaru bod nhw heb gael digon o gyfle i ddysgu am yr holl hanes hyn yn yr ysgol," meddai.

Er hyn, mae poblogrwydd Welsh Histories ar y cyfryngau cymdeithasol wedi synnu Niklas yn fawr.

"Wnaeth yr holl beth ddigwydd yn gyflym iawn. O fewn blwyddyn roedd gen i 50,000 o ddilynwyr ar Facebook. Do'n i byth yn credu byse cymaint o bobl eisiau dysgu am hanes Cymru mewn gwirionedd."

Mae gan Niklas filoedd o Americanwyr yn ei ddilyn hefyd – nifer sydd o dras Gymreig, ac sydd felly â diddordeb mewn dysgu fwy am hanes eu cyndeidiau.

Ond mae ganddo nifer fawr o ddilynwyr sy'n dod o Awstralia a Chanada hefyd.

Mae Niklas wedi bod yn dysgu Cymraeg ers 2019, ac yn angerddol iawn dros yr iaith, ac yn gobeithio dod yn rhugl rhyw ddydd.

Ond ar hyn o bryd, mae'n blaenoriaethu ceisio dysgu Hindi, un o brif ieithoedd talaith Maharashtra, lle mae Niklas a'i wraig yn byw.

Hoff ffaith hanes Cymru?

Dau ddyn mewn siwts - mewn dau hen lun gwahanol o'r 19eg ganrifFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Jefferson Davis ac Abraham Lincoln - y ddau o dras Gymreig!

"Fy hoff ffaith am hanes Cymru yw fod Jefferson Davis, arlywydd y Taleithiau Cydffederal yn ystod Rhyfel Cartref America, ac Abraham Lincoln, arlywydd yr Unol Daleithiau ar y pryd, ill dau yn dod o dras Gymreig.

"A nid dim ond hynny, ond bod eu teuluoedd nhw'n mynd yn ôl i'r un ardal! Roedd eu cyndeidiau nhw'n byw ar ffermydd oedd nid nepell o'i gilydd.

"Felly, yn y bôn, cafodd Rhyfel Cartref America ei ymladd gan ddau Gymro, oedd o ddau safbwynt gwleidyddol hollol wahanol i'w gilydd!"

Pethau sy'n debyg rhwng Cymru ac India

Ar ôl bod yn byw yn India am dros flwyddyn a hanner, mae Niklas wedi sylwi ar nifer o bethau sy'n debyg rhwng India a Chymru.

"Mae acen Cymoedd de Cymru yn debyg iawn i acen de India yma, sy'n beth rhyfedd iawn! Mae'r ddwy wlad yn llawn mynyddoedd a gwyrddni anhygoel, wnaeth fy synnu pan ddes i i India am y tro cyntaf.

"Mae'r ddwy genedl hefyd yn caru yfed te! Yng Nghymru mae gyda ni'r 'baned' ond yma mae gyda ni'r 'chai'.

"Hefyd, mae Cymraeg a Hindi'n debyg iawn. Maen nhw'n perthyn i'r un teulu ieithoedd, sef y teulu Indo-Ewropeaidd. Er enghraifft, wrth gyfri o un i 10, y rhif 'saith' yn Hindi yw 'saat', a'r rhif naw yn Hindi yw 'nau'!"

Dau lun ar bwys ei gilydd - un ar y chwith o blat o fwyd Indiaidd, ac ar y dde, dyn a menyw yn dal dwylo yn yr awyr agored yn cerdded ar goncridFfynhonnell y llun, Niklas George

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig