Bws tîm merched Cymru mewn gwrthdrawiad yn Y Swistir

- Cyhoeddwyd
Mae bws tîm merched Cymru wedi bod yn rhan o wrthdrawiad ar eu ffordd i sesiwn hyfforddi yn ninas St Gallen yn Y Swistir.
Does neb oedd ar y bws wedi eu hanafu yn y digwyddiad brynhawn Mawrth, ond bu criw ambiwlans yn trin gyrrwr cerbyd arall.
Dywedodd rheolwr Cymru, Rhian Wilkinson mewn cynhadledd i'r wasg fod "pawb yn iawn".
Roedd y bws yn teithio i Arena St Gallen ar y pryd, ble roedd disgwyl i'r garfan gymryd rhan mewn sesiwn hyfforddi yn y stadiwm yn ddiweddarach.
Ond mae'r sesiwn wedi cael ei chanslo oherwydd y digwyddiad.
Dywedodd Angharad James wrth y gynhadledd i'r wasg y bydd Cymru'n "paratoi yr un peth" er gwaetha'r digwyddiad
Doedd y rheolwr, na'r capten Angharad James, ar y bws ar y pryd am eu bod nhw'n cynnal y gynhadledd.
"Mae'r sefyllfa yn dal i ddatblygu, ond rydyn ni'n ceisio bod mor glir a thryloyw a phosib," meddai Wilkinson.
"Yn ôl yr adroddiadau, mae pawb yn iawn a be' 'da ni angen ei wneud nawr yw cael pawb i ffwrdd o leoliad y gwrthdrawiad er mwyn ailasesu.
"Mae gennym ni staff gwych, cefnogaeth arbennig ac fe fyddwn ni'n sicrhau fod pawb yn parhau i fod yn iawn.
"Yn fwy pwysig na dim, mae gyrrwr y cerbyd arall i weld yn iawn hefyd, a byddwn yn cadarnhau hynny pan gawn ni fwy o newyddion."

Doedd y rheolwr, na'r capten Angharad James, ar y bws ar y pryd
Dywedodd llefarydd ar ran y gymdeithas bêl-droed fod pawb oedd ar y bws, a'r rheiny oedd yn y cerbyd arall, wedi osgoi unrhyw anafiadau.
"Blaenoriaeth CBDC oedd cael y chwaraewyr o'r lleoliad a dychwelyd i ganolfan hyfforddi Cymru er mwyn cwblhau'r paratoadau ar gyfer y gêm yfory," meddai.
Cadarnhaodd Heddlu'r Swistir bod un person wedi cael eu cludo i'r ysbyty gyda "mân anafiadau".
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd13 awr yn ôl
- Cyhoeddwyd2 o ddyddiau yn ôl
- Cyhoeddwyd3 o ddyddiau yn ôl