Yr ‘Aussie eofn’ a fynnodd ddechrau pob sgwrs yn Gymraeg
- Cyhoeddwyd
Beth sydd tu ôl i'r penderfyniad i ddysgu Cymraeg? I rai, mae am resymau teuluol. I eraill, mae ar gyfer eu swydd. Neu mae rhai jest yn syrthio mewn cariad â'r iaith.
I Liz Corbett o Melbourne, Awstralia, roedd yn gyfuniad o'r tri, ac ers iddi ddechrau dysgu Cymraeg rhyw 15 mlynedd yn ôl, mae ei bywyd hi wedi ei drawsnewid. Dyma ei stori.
"Sais oedd fy nhad, Cymraes oedd fy mam o Aberafan ym Mhort Talbot. Doedd hi ddim yn siarad Cymraeg yn rhugl - dim ond Cymraeg y cae chwarae - ond oedd hi'n falch iawn i fod yn Gymraes," meddai.
"Wnaethon ni symud i Awstralia pan o'n i'n bump oed, ac roedd hi'n gwrthod gadael i fi ddweud o'n i'n Saesnes. 'You are not English,' meddai hi, 'You are British, because I am Welsh'.
"Pan o'n i'n tyfu lan, do'n i ddim yn gwybod llawer am Gymru. O'n i'n sylweddoli oedd hi'n wlad fach drws nesaf i Loegr, a dw i'n cofio fy mam yn dangos llyfr Radio BBC o'r saithdegau o'r enw Let's Speak Welsh ac esbonio am yr iaith Gymraeg.
"Ond anghofiais i am Gymru pan o'n i'n laslances. Es i i'r brifysgol, wnes i gwrdd â fy ngŵr, a'i briodi fe, a chawson ni bedwar o blant yn eithaf cyflym."
Newid byd
Ar ôl cyfnod prysur yn ei bywyd, dyma Liz yn mynd ati i ysgrifennu rhestr o bopeth yr oedd hi eisiau eu cyflawni erbyn ei phen-blwydd yn 40 oed. Roedd ysgrifennu nofel ar ben y rhestr.
"Oedd symud i Awstralia y digwyddiad ddiffiniodd fy mhlentyndod, felly o'n i'n moyn ysgrifennu nofel am ymfudwyr. Ond nid fy stori fy hunan - bydda fe'n rhy ddiflas," meddai.
"O'n i wrth fy modd yn darllen nofelau hanesyddol, felly roedd yn teimlo eithaf naturiol i drio ysgrifennu nofel hanesyddol gyda chymeriadau Cymreig.
"Do'n i ddim yn gwybod llawer am Gymru, dim ond corau meibion a bod pobl o Gymru yn hoffi rygbi... Felly es i'r llyfrgell.
"Darllenais i y Mabinogi, a sawl chwedl Gymreig arall. Do'n i erioed wedi darllen y Mabinogi o'r blaen, na chlywed stori'r ddraig goch, na stori Taliesin, na stori Clustiau March ap Meirchion, nac Arthur sy'n cysgu mewn ogof... Waw!"
Yn ystod ei gwaith ymchwil, daeth Liz o hyd i wybodaeth am ddosbarthiadau dysgu Cymraeg lleol.
"Dosbarthiadau Cymraeg? Ym Melbourne?! Ro'n i'n meddwl efallai fydd hi'n ddefnyddiol i ddysgu tipyn bach am yr iaith yn helpu gyda fy ymchwil," meddai.
"Wnes i gofrestru yn y dosbarth am un tymor.
"Wnes i ffeindio'r iaith Gymraeg mor brydferth - y wyddor, yr acennau uwchben llythrennau, y seiniau - geiriau fel gwdihŵ, sy'n swnio fel toowitwoo, a pilipala sy'n swnio fel adenydd ysgafn, a buwch goch gota - mor ciwt! - a drewgi, a sglodion, a llosgfynydd.
"Dw i ddim yn gwybod sut o'n i wedi byw heb harddwch y geiriau yna."
Mae Liz yn cyfaddef nad oedd hi, mewn gwirionedd, erioed wedi disgwyl siarad yr iaith yn rhugl. Wedi'r cyfan, roedd hi'n anobeithiol yn ei gwersi Siapanaeg yn yr ysgol.
Ond roedd ysgrifennu nofel gyda chymeriadau Cymraeg wedi dihuno rhywbeth ynddi. Trodd un tymor o ddosbarthiadau i mewn i ddau dymor ac wedyn tri.
"Sylweddolais i, do'n i ddim yn moyn stopo. Ro'n i wedi syrthio mewn cariad gyda'r iaith Gymraeg," meddai.
Dianc i Gymru
Pan aeth ei merch ieuengaf drwy gyfnod anodd, dechreuodd iechyd meddwl Liz ddioddef, i'r fath raddau nad oedd hi'n medru ysgrifennu mwyach. Dyna pryd wnaeth ei gŵr awgrymu y dylai fynd ar ei gwyliau er mwyn cael dianc rhag y sefyllfa am ychydig.
"Penderfynais i deithio i Gymru - gwlad yr iaith a'r straeon hudol," meddai Liz.
"Er mwyn paratoi ar gyfer fy ngwyliau wnes i wers Say Something in Welsh bob dydd, weithiau dwywaith y dydd, er mwyn derbyn anogaeth Aran, y llais ar y podlediad.
"Cwympodd pum mlynedd o ddosbarthiadau Cymraeg yn eu lle.
"Pan o'n i yng Nghymru y tro yna, arhosais i yn Llanystumdwy, ac es i i dafarn Y Plu bron bob nos a dod i 'nabod pobl leol. Unwaith, dw i'n cofio eistedd mewn cylch o fy ffrindiau newydd.
"Gofynnodd rhywun - Wyt ti wedi dysgu ieithoedd eraill? O ydw, atebais i yn hyderus, dysgais i Siapanaeg yn yr ysbyty.
"Roedd llygaid fel soseri o gwmpas y cylch. Wedyn, dyn yn pwyso yn agos ata i a sibrwd: dw i'n meddwl dy fod ti'n meddwl ysgol, nid ysbyty.
"Dw i erioed wedi cymysgu'r ddau air ers hynny!
"Pan o'n i'n eistedd yn y maes awyren er mwyn paratoi i hedfan adref, sylweddolais i bod yr amser yng Nghymru wedi newid fy mwriadon ar gyfer yr iaith.
"Doedd e ddim yn ddigon i ddysgu'r iaith, ro'n i'n moyn parhau tan galla i siarad yr iaith yn rhugl.
"Ers hynny, dwi wedi bod ar bootcamp Say Something in Welsh lle oedd dysgwyr ddim yn cael siarad Saesneg neu edrych yn y geiriadur.
"Es i i gwrs haf yn Aberystwyth un flwyddyn hefyd. Un mis o ddosbarthiadau Cymraeg - o'n i yn y nefoedd.
"Pan o'n i yno, cwrddais â Veronica Calarco, arlunydd o Awstralia, oedd yn byw yng Nghymru. Pan wnaeth hi sefydlu stiwdio breswyl ar gyfer ysgrifenwyr ac arlunwyr yng Nghorris, ceisiais am le fel ei gwirfoddolwr cyntaf.
"Arhosais i yng Nghorris am saith mis yn y pen draw. Wnes i ymuno ȃ dau grŵp Merched y Wawr, a chofrestru mewn dosbarthiadau Cymraeg er mwyn gwella fy Nghymraeg.
"Dw i'n Aussie eofn - does dim moesau 'da fi o gwbl - a mynnais i ddechrau bob sgwrs yn y Gymraeg! Oedd e'n diddorol i weld y effaith."
Cymorth i ddysgwyr:
Defnyddio'r Gymraeg yn Awstralia
Pan ddychwelodd Liz i Awstralia ar ôl ei hymweliad cyntaf â Chymru, dechreuodd helpu fel tiwtor gyda'r dechreuwyr yn ei dosbarthiadau Cymraeg.
"Dim ond tîm bach o diwtoriaid sydd gyda ni ('dyn ni i gyd yn wirfoddolwyr)," meddai.
"'Dyn ni'n gweithio fel tîm tag - achos weithiau mae'r tiwtoriaid yn mynd bant i astudio, neu ymweld ȃ Chymru, neu jyst achos bod eu bywyd nhw yn brysur iawn.
"Mae yna hefyd noson yn y dafarn bod mis er mwyn cael bwyd a diodydd a sgwrs bywiog Cymraeg.
"Unwaith bob mis dw i'n trefnu sgwrs Skype gyda dysgwyr o gwmpas Awstralia hefyd. Dw i'n siarad gyda dysgwyr o Canberra, Tasmania, De Awstralia a Queensland. Felly, mae gyda fi sawl cyfle i ymarfer fy Nghymraeg i.
"Gorffennais i fy nofel, The Tides Between, pan ro'n i'n byw yng Nghorris, a cafodd hi ei chyhoeddi ym mis Hydref 2017. Mae'n cynnwys chwedlau, geiriau a chaneuon Cymraeg.
"Dw i'n gobeithio bydd myfyriwr ysgolion Awstralia yn astudio'r llyfr yn y dyfodol. Bydd hi'n wych i feddwl amdanyn nhw'n ddarllen hanesion Llyn y Fan Fach, Taliesin, a Chlustiau March ap Meirchion, a dysgu tipyn bach am yr iaith Gymraeg hefyd."
Hefyd o ddiddordeb: