Pryder am brinder hyfforddwyr i gŵn tywys
- Cyhoeddwyd
Mae pobl sydd â phroblemau gyda'u golwg yn wynebu heriau wrth geisio cael cŵn tywys oherwydd diffyg hyfforddwyr, yn ôl elusennau.
Mae tua 20 o bobl yng Nghymru sydd â thrafferthion â'u golwg yn disgwyl am gi tywys.
Dywedodd Rowena Thomas-Breese, 58 oed o Hen Golwyn, ei bod wedi gorfod gwneud heb gi tywys am yr 16 mis diwethaf.
"Rydw i wastad wedi bod yn annibynnol, ond rŵan dydw i ddim yn gallu mynd unrhyw le heb ofyn am help," meddai.
Mae tua 5,000 o gŵn tywys ar draws y DU, ac mae'r broses o'u hyfforddi yn cymryd 18 mis ac yn costio tua £55,000.
Fe wnaeth Mrs Thomas-Breese golli ei golwg yn 32 oed yn dilyn cymhlethdodau gyda chlefyd siwgr.
Cafodd gi tywys newydd, Emma, yn 2017 wedi i'w chi blaenorol orfod ymddeol, ond yn fuan ar ôl hynny bu'n rhaid i Emma ymddeol hefyd wedi iddi ddechrau peidio ag ymateb i gyfarwyddiadau.
'Mwy na ffrind'
"Mae ci tywys yn fwy na dim ond anifail anwes neu ffrind, mae'n hanfodol er mwyn galluogi i mi gael bywyd, a fy nghadw'n ddiogel," meddai Mrs Thomas-Breese.
"Dydw i ddim yn gallu gweld bai ar elusen Guide Dogs - maen nhw wedi trio eu gorau.
"Rwy'n cydnabod nad ydyn nhw'n gallu gwneud i gi ymddangos gyda hud a lledrith.
"Ond ar yr un pryd mae wedi bod yn amser anodd, ac rwy'n gwybod bod 'na bobl eraill mewn sefyllfaoedd tebyg."
Mae Gwynfryn Jones, 65 oed o Gaernarfon, wedi bod heb gi tywys ers mis Awst.
"Rŵan, pan dwi'n mynd allan mae'n rhaid i mi deimlo fy ffordd o gwmpas, a dwi bron â disgyn yn aml oherwydd bod y palmant yn anwastad," meddai.
"Pan roedd gen i gi ro'n i'n gallu mynd i lefydd gwahanol, ond dydw i ddim yn teimlo'n gyfforddus erbyn hyn."
Dywedodd pennaeth elusen Guide Dogs Cymru, Jonathan Mudd y bydden nhw'n hoffi darparu ci yn syth i unrhyw un sydd eu hangen.
"Does dim prinder o gŵn, ond mae angen staff profiadol i'w hyfforddi nhw," meddai.
"Mae'n rôl arbenigol sydd angen sgiliau ac ymroddiad, ac mae'n rhaid i ni osod safonau uchel ar eu cyfer."
Ychwanegodd ei bod yn cymryd tair blynedd i gymhwyso ar gyfer y rôl.
"Ry'n ni'n ceisio gwneud mwy, ond mae hynny'n cymryd amser," meddai.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd12 Mai 2017
- Cyhoeddwyd3 Hydref 2017