Pryder bod hawlio am driniaeth deintydd yn 'rhy gymhleth'
- Cyhoeddwyd
Dyw rhai pobl sy'n derbyn budd-daliadau yng Nghymru ddim yn mynd at y deintydd am fod dryswch ynglŷn â hawlio triniaeth am ddim, yn ôl arolygwr iechyd.
Dywedodd Cynghorau Iechyd Cymuned yng Nghymru (CIC) bod rhai wedi cael eu dirwyo am eu bod wedi gwneud cais ar ôl camgymryd bod ganddyn nhw'r hawl i wneud hynny.
Maen nhw'n dweud bod y system yn rhy gymhleth, gan olygu ei bod yn hawdd i gleifion wneud camgymeriadau.
Dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod yn trafod sut i symleiddio'r system ac os oes angen rhagor o fesurau.
Mae pobl sy'n derbyn rhai budd-daliadau yng Nghymru yn gallu hawlio cymorth ariannol am eu triniaeth ddeintyddol.
Gall unrhyw un sy'n cael eu dal yn ceisio hawlio triniaeth dydyn nhw ddim yn gymwys amdano wynebu dirwy o hyd at £100, yn ogystal â chost y driniaeth.
'Meddwl ddwywaith'
Dywedodd CIC eu bod "wedi clywed gan nifer o bobl sydd wedi derbyn dirwyon sylweddol am eu bod wedi camgymryd eu bod yn gymwys i gawlio triniaeth am ddim".
"Mae'r dirwyon yma yn gallu achosi pryder mawr a gall arwain pobl i feddwl ddwywaith cyn mynd am driniaeth," meddai llefarydd.
Mae cleifion yn gorfod arwyddo ffurflen yn y ddeintyddfa os ydyn nhw am hawlio cymorth ariannol am y driniaeth.
Y claf ei hun sy'n gyfrifol am wybod os ydyn nhw'n gymwys i hawlio am y driniaeth.
Ond mae CIC yn dweud bod y system yn rhy gymhleth am fod nifer o wahanol fathau o fudd-daliadau, ac yn galw am ei gwneud yn haws i bobl ddeall os ydyn nhw'n gymwys i hawlio am driniaeth.
'Camgymeriad gonest'
Dywedodd Lawrence Thomas o Lanrhymni yng Nghaerdydd ei fod yn credu ei fod yn gallu hawlio am gost ei driniaeth oherwydd ei fod yn derbyn Lwfans Cyflogaeth a Chymorth (ESA).
Ond gan ei fod yn newydd i'r system, dywedodd nad oedd wedi sylweddoli bod dau fath o ESA - un ble mae modd hawlio am driniaeth, ac un ble nad oes hawl.
Ychydig fisoedd yn ddiweddarach cafodd ddirwy o £100, ac roedd rhaid iddo dalu cost y driniaeth hefyd.
"Roedd yn gamgymeriad gonest, ac roeddwn i'n bryderus a dig am eu bod yn fy nhrin fel 'mod i'n rhyw fath o droseddwr," meddai wrth raglen Sunday Politics Wales.
"Mae'n gymhleth i rywun sydd ddim yn adnabod y system."
Llwyddodd i apelio yn erbyn y ddirwy, ond bu'n rhaid iddo dalu am ei driniaeth a dyw ddim wedi bod 'nôl i weld y deintydd ers dwy flynedd.
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru eu bod yn "rhannu'r pryderon am y gofid sy'n cael ei achosi pan fo camgymeriadau'n digwydd".
"Ry'n ni wrthi'n trafod sut mae modd symleiddio'r system ac os oes angen rhagor o fesurau mewn lle i amddiffyn unigolion bregus," meddai.