PRO14: Scarlets 29-12 Ulster

  • Cyhoeddwyd
Billy Burns yn taclo Kieron FonotiaFfynhonnell y llun, Huw Evans Agency
Disgrifiad o’r llun,

Canolwr y Scarlets, Kieron Fonotia (dde) oedd seren y gêm nos Wener

Llwyddodd y Scarlets i hawlio pwynt bonws wrth iddyn nhw drechu Ulster 29-12.

Rhoddodd gais cynnar David Shanahan yr ymwelwyr ar y blaen ar Barc y Scarlets, gyda throsiad Billy Burns yn ymestyn y fantais.

Ond fe sgoriodd y tîm cartref bedwar cais heb ateb, gyda Werner Kruger, Kieran Hardy, Kieron Fonotia a Tom Prydie yn croesi.

Sgoriodd Ulster yn hwyr diolch i gais Jonny Stuart, ond roedd y Scarlets yn rhy gryf.

Mae'r canlyniad yn rhoi'r Scarlets yn ail yn Adran B y PRO14.

Scarlets:

McNicholl; Prydie, Fonotia, Asquith Nicholas; D Jones, Hardy; Price, M Jones, Kruger, Cummins, Bulbring, Kennedy, Boyde (c), Cassiem.

Eilyddion: Hughes, D Evans, Gardiner, Rawlins, D Davis, Hidalgo-Clyne, Blommetjies, M Williams.

Ulster:

Lowry; Baloucoune, Ludik, Hume, Speight; Burns, Shanahan; O'Sullivan, McBurney, Moore, O'Connor (c), Treadwell, Coetzee, Reidy, Timoney.

Eilyddion: Andrew, Warwick, O'Toole, Nagle, G Jones, Stewart, Cave, A Kernohan.