Manw yn cynrychioli Cymru yn y Junior Eurovision
- Cyhoeddwyd
Bu Manw, disgybl 14 oed o Ysgol Llangefni, yn cynrychioli Cymru yng nghystadleuaeth y Junior Eurovision ddydd Sul.
Cafodd Manw ei dewis i ganu dros Gymru drwy gyfrwng y Gymraeg ar ôl iddi ennill cyfres Chwilio am Seren ar S4C.
Roedd Manw yn cystadlu yn erbyn 19 o wledydd eraill yn Minsk gyda'r gan "Hi yw y Berta", cân wreiddiol gan Yws Gwynedd.
Dyma'r tro cyntaf erioed i Gymru gystadlu fel cenedl unigol yn y Junior Eurovision Song Contest.
Gwlad Pwyl oedd yn fuddugol gyda 201 o bwyntiau, tra bod Ffrainc ac Awstralia yn ail a thrydydd.
Gorffennodd Cymru ar waelod y tabl gyda 29 pwynt.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd25 Tachwedd 2018
- Cyhoeddwyd10 Hydref 2018