Cymru yn y Junior Eurovison - ond pam ddim y prif Eurovison?

  • Cyhoeddwyd
Manw LlangefniFfynhonnell y llun, Iolo Penri
Disgrifiad o’r llun,

Criw yn Ysgol Llangefni yn dangos eu cefnogaeth i'w cyd-ddisgybl Manw, sy'n cynrychiol Cymru yng nghystadleuaeth Junior Eurovision

Mae'n amser rhoi mewn i ychydig o 'glitter' a theledu cawslyd wrth i Gymru gystadlu fel cenedl unigol yn y Junior Eurovision Song Contest am y tro cyntaf erioed.

Manw, disgybl 14 oed o Ysgol Llangefni, sy'n canu dros Gymru, yn Gymraeg, yn erbyn 19 o wledydd eraill ar 25 Tachwedd yn Minsk, Belarus, ar ôl iddi ennill cystadleuaeth ar S4C.

Ond pam nad ydy Cymru yn cael cystadlu fel arfer ym mhrif gystadleuaeth yr Eurovision Song Contest?

Mae llawer wedi bod yn galw ers blynyddoedd i Gymru gael y cyfle hwnnw, a nifer o Gymry wedi cystadlu ynddi dros y DU.

Felly ydy'r ffaith ein bod yn cael cystadlu yn y Junior Eurovision yn golygu bod gobaith y cawn gystadlu yn y prif Eurovision?

Efallai. Ond mae'n annhebygol ar hyn o bryd yn ôl ymateb y trefnwyr.

Byddai'n rhaid bod y BBC yn dweud wrth Graham Norton roi ei feicroffon i gadw ac yn rhoi'r gorau i ddarlledu'r gystadleuaeth am y tro cyntaf ers 1957.

A byddai'n dibynnu a oes darlledwr arall yn y DG, fel ITV, eisiau darlledu'r gystadleuaeth ai peidio.

'Blaenoriaeth'

Y tro diwethaf i'r DU gystadlu yn y Junior Eurovision oedd yn 2005 ac am nad oes un o ddarlledwyr y DU-gyfan wedi dangos diddordeb yn 2018, ac S4C wedi, mae Cymru'n gallu cystadlu fel gwlad yn Belarus.

Disgrifiad o’r llun,

Ers Mary Hopkin yn 1970 mae llawer o Gymry wedi cystadlu yn yr Eurovision dros y DU

Dywedodd llefarydd ar ran yr Eurovision wrth BBC Cymru Fyw: "Mae'r BBC yn ymroddedig iawn i'r Eurovision Song Contest ac wedi cymryd rhan ers 1957."

Cyfeiriodd y llefarydd at sylwadau Jon Ola Sand, Goruchwyliwr Gweithredol yr Eurovision Song Contest: "Mae gennym berthynas gyda'r BBC ar gyfer yr Eurovision Song Contest i oedolion.

"Os hoffai'r BBC ddod i'r Junior Eurovision Song Contest, mae eu darlledu nhw yn ymestyn ar draws y Deyrnas Unedig i gyd ac felly fe fydden nhw yn cael blaenoriaeth."

'Dim sianel Brydeinig arall'

Mae Glen Bartlett, sydd wedi dawnsio ar lwyfan yr Eurovision, wedi rhoi eglurhad pellach o'r sefyllfa i Cymru Fyw:

Ffynhonnell y llun, Glen Bartlett
Disgrifiad o’r llun,

Mae Glen Bartlett wedi cymryd rhan yn yr Eurovision fel dawnsiwr

"Mae S4C yn aelod o'r EBU (European Broadcasting Union), ac mae'n rhaid i bob sianel sy'n cystadlu yn Junior Eurovision fod yn aelod i gymryd rhan," meddai.

"Gan fod S4C wedi dangos diddordeb mewn bod yn rhan o'r gystadleuaeth, a gan fod dim sianel Brydeinig arall wedi dangos diddordeb, wedyn mae Cymru'n gallu cael ei chynrychioli fel gwlad 'in its own right'.

"Yn y gorffennol mae ITV wedi darlledu'r gystadleuaeth rhwng 2003 a 2005, ac felly Prydain oedd yn cael ei chynrychioli, gan fod ITV'n cael ei gyfri' fel sianel Brydeinig...(yn itha' da actually, cafon ni 3ydd safle ac 2il safle!).

"Theoretically, gall Cymru cael ei chynrychioli ym mhrif gystadleuaeth Eurovision, ond y BBC sy'n cystadlu dros Brydain ar hyn o bryd, a gan bod BBC yn sianel Brydeinig, wedyn 'United Kingdom' sy'n cal ei chynrychioli ac nid y gwledydd ar wahan."

Roedd y gystadleuaeth yn nerfus iawn am adael y Ddraig Goch yn yr arena yn 2016 pan oedd Joe Woolford o Rhuthun yn cystadlu ar ran y DU am eu bod eisiau "sicrhau nad oes negeseuon gwleidyddol yn cael eu cyfleu".

Yn y diwedd fe wnaethon nhw lacio'r rheolau a chaniatáu "baneri cenedlaethol, rhanbarthol a lleol y rhai sy'n cymryd rhan e.e. baner Cymru...".

Bydd pethau'n wahanol iawn gyda pherfformiad Manw yn Minsk.

Ffynhonnell y llun, S4C
Disgrifiad o’r llun,

Bydd dim problem gyda'r Ddraig Goch wrth i Manw ganu'r gân Perta gan Yws Gwynedd yn Minsk

Gemau heb Ffiniau

Ond nid dyma'r tro cyntaf i Gymru gystadlu yn ei henw ei hun yng nghystadlaethau'r Undeb Ddarlledu Ewropeaidd.

Yn 2017, cystadlodd Côr Merched Sir Gâr dros Gymru yng nghystadleuaeth gyntaf Côr Eurovision y Flwyddyn yn Latfia gan ddod yn ail i Slofenia.

Cyn hynny, roedd Cymru wedi cystadlu fel gwlad yng nghystadleuaeth Jeux Sans Frontières, neu Gemau Heb Ffiniau ar S4C (fersiwn Ewropeaidd o It's a Knockout), rhwng 1991-1994.

Doedd dim cystadleuydd yn cynrychioli'r Deyrnas Unedig fel gwladwriaeth y ddau dro yma.

Felly er gwaethaf ei henw fel 'Gwlad y Gân' mae'r sefyllfa'n dal yn rhwystredig i Gymru.

Ond, b'nawn Sul, 25 Tachwedd, am 15:00 yn fyw ar S4C mi all Cymru bleidleisio dros Gymru am unwaith wrth inni rannu llwyfan â gwledydd eraill Ewrop.

Efallai o ddiddordeb: