Is-ganghellor Prifysgol Abertawe wedi'i wahardd

  • Cyhoeddwyd
Richard B DaviesFfynhonnell y llun, Getty Images

Mae is-ganghellor Prifysgol Abertawe wedi cael ei wahardd o'i waith tra bod ymchwiliad mewnol yn cael ei gynnal.

Mae'r Athro Richard B Davies wedi bod yn is-ganghellor y brifysgol ers 2003.

Mae deon yr Ysgol Reolaeth, yr Athro Marc Clement, hefyd wedi cael ei wahardd o'i waith.

Dyw Prifysgol Abertawe ddim wedi manylu ar natur yr ymchwiliad.

Dau aelod arall o staff

Mae e-bost at staff, sydd wedi'i weld gan BBC Cymru, yn datgelu bod dau aelod arall o staff yr ysgol reolaeth wedi'u gwahardd hefyd.

"Gallaf eich sicrhau nad yw'r materion dan sylw yn ymwneud â pherfformiad academaidd y brifysgol na'i lles ariannol," meddai'r e-bost.

Dywedodd y brifysgol mewn datganiad: "Gall Prifysgol Abertawe gadarnhau bod yr is-ganghellor Richard B Davies a'r Athro Marc Clement wedi cael eu gwahardd nes y bydd ymchwiliad mewnol wedi'i gwblhau.

"Ni fyddwn yn gwneud sylw pellach ar hyn o bryd."

Cafodd yr Athro Davies ei fagu yng ngorllewin Cymru. Aeth ymlaen i astudio peirianneg ym Mhrifysgol Caergrawnt cyn astudio am PhD ym Mhrifysgol Bryste.

Mae'r Athro Clement, o Lanelli, wedi bod yn ddeon ysgol reolaeth Prifysgol Abertawe ers 2015.