Dynes gollodd chwe stôn yn diolch i elusen awyr agored
- Cyhoeddwyd
Mae dynes o Wynedd a gollodd chwe stôn pan ddechreuodd ddringo wedi diolch i elusen sydd wedi ennill gwobr am drawsnewid ei bywyd.
Mae'r Bartneriaeth Awyr Agored wedi cael ei henwi fel Sefydliad y Flwyddyn yng Ngwobrau Chwaraeon Cymru eleni.
Mae'n helpu miloedd o bobl i ddefnyddio'r awyr agored i wella eu bywydau - gan gynnwys Gwenllian Dafydd o Fethesda.
Dechreuodd Gwenllian, 30, fynd i sesiynau dringo yn Indy Climbing Wales yn Llanfairpwll ar Ynys Môn y llynedd.
"Roeddwn i wedi cyrraedd croesffordd yn fy mywyd," meddai.
"Roeddwn i'n pwyso mwy nag erioed, yn segur ac yn teimlo'n isel iawn."
Bellach mae'n dringo ac yn rhedeg ac mae wedi cofrestru ar gwrs sgïo.
Ychwanegodd: "Wnaeth yr hyfforddwr dringo ddim gwneud i mi feddwl nad oeddwn i ddigon da neu angen newid, ond fe roddodd y sesiynau a'r adnoddau oeddwn i eu hangen i gael help."
Fe sylweddolodd Gwenllian pa mor bell oedd hi wedi dod wrth ddringo yn yr awyr agored am y tro cyntaf.
"Fe wnes i eistedd ar y top ar ôl dringo 300 troedfedd a gwylio'r machlud a meddwl 'mod i'n byw y bywyd yma diolch i'r Bartneriaeth Awyr Agored," meddai.
"Fyddwn i byth wedi gwneud hyn cyn dechrau dringo gyda nhw."
'Ysbrydoli pobl leol'
Mae'r bartneriaeth wedi cael ei chydnabod am ei gwaith yn sbarduno cynhwysiant yn y sector awyr agored.
Mae ei rhaglen Antur Merched yn un o'r mentrau sy'n mynd o nerth i nerth.
Esboniodd y prif weithredwr, Tracey Evans: "Mae gwaith y bartneriaeth yn ysbrydoli pobl leol i gymryd rhan mewn gweithgarwch awyr agored er lles eu hiechyd a'u hyder ac mae'n helpu i ddarparu cyfleoedd newydd i newid bywydau er gwell."
Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf yn unig mae'r tîm wedi ysbrydoli mwy na 16,000 o bobl, drwy gydweithio â'r 45 o glybiau sy'n aelodau, partneriaid a chyflogwyr lleol.
Mae Gwobr Sefydliad y Flwyddyn yn helpu i gydnabod llwyddiant wrth annog pobl yng Nghymru i gymryd rhan mewn chwaraeon a gweithgarwch corfforol.
Bydd Gwobrau Chwaraeon Cymru yn cael eu cynnal yn y Celtic Manor nos Fawrth 4 Rhagfyr.
Bydd mwy o enillwyr yn cael eu cyhoeddi wrth i'r wythnos fynd yn ei blaen. Yr enillwyr hyd yn hyn ydy:
Codi Allan, Bod yn Egnïol - Gwobr Cymru Actif 2018
Gareth Lanagan - Gwirfoddolwr y Flwyddyn 2018
Aled Jones-Davies - Hyfforddwr Cymunedol y Flwyddyn 2018
Partneriaeth Awyr Agored - Sefydliad y Flwyddyn 2018