Saethu dyn ger Glyn Ebwy: Gwobr o £5,000 am wybodaeth
- Cyhoeddwyd
Mae gwobr o £5,000 yn cael ei gynnig am wybodaeth fyddai'n helpu'r heddlu ar ôl i ddyn gael ei saethu yn ei goes yn ardal Glyn Ebwy.
Dywed yr heddlu eu bod yn trin y digwyddiad ar 18 Tachwedd fel un o geisio llofruddio.
Fe gafodd y dyn 47 oed, oedd yn mynd a'i gi am dro ar y pryd, anafiadau all newid ei fywyd.
Mae'r wobr o £5,000 yn cael ei gynnig gan elusen Crimestoppers ar gyfer gwybodaeth a fyddai'n arwain at arést ac achos llys llwyddiannus.
Dywedodd Ella Rabaiotti, rheolwr Crimestoppers yng Nghymru: "Roedd hwn yn ddigwyddiad difrifol. Rydym yn deall er bod arést wedi ei wneud fod yr ymchwiliad yn parhau ac rydym yn annog unrhyw un â gwybodaeth i gysylltu â ni."
Mae modd cysylltu â nhw yn ddienw ar 0800 555 111.
Cafodd yr heddlu eu galw i heol wledig Ffordd Manmoel toc wedi 18:00 ar 18 Tachwedd.
Dywedodd llefarydd ar ran Heddlu Gwent fod y dyn 50 oed o ardal Cefn Golau, Tredegar, gafodd ei arestio ar amheuaeth o lofruddiaeth wedi ei ryddhau dan ymchwiliad.
Maen nhw hefyd yn annog unrhyw un sydd â gwybodaeth i gysylltu â nhw ar 101 neu ffonio Crimestoppers yn ddienw.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd20 Tachwedd 2018
- Cyhoeddwyd22 Tachwedd 2018