Cwmnïau mawr yn dweud eu bod yn elwa o'r Gymraeg
- Cyhoeddwyd
Mae nifer o gwmnïau mawr wedi dweud fod yr iaith Gymraeg yn help i ddenu cwsmeriaid newydd.
Mewn adroddiad busnes newydd, mae cwmnïau fel Boots, Santander, BT, Lidl a Marks & Spencer yn dweud fod y Gymraeg o fantais i ehangu eu busnes yng Nghymru.
Dros y misoedd diwethaf mae Tîm Hybu Comisiynydd y Gymraeg wedi cynnal arolwg gyda busnesau mawr, bach a chanolig yma am eu hagweddau tuag at ddefnyddio'r Gymraeg.
Roedd mwyafrif clir yn dweud bod y Gymraeg yn fanteisiol iddyn nhw, meddai'r adroddiad.
Mae ambell un o'r cwmnïau sy'n cael eu cynnwys yn yr adroddiad wedi cael eu beirniadu yn y gorffennol am eu perthynas gyda'r Gymraeg.
'O fudd i'n henw da'
Cafodd yr ymchwil ei gynnal rhwng mis Ionawr a mis Mawrth eleni, gan gynnwys barn 82 o arweinwyr busnes ledled Cymru.
Yn ôl yr adroddiad, Defnyddio'r Gymraeg - yr achos busnes, dolen allanol, mae:
76% yn cytuno neu'n cytuno'n gryf bod defnyddio'r Gymraeg yn denu cwsmeriaid;
82% yn cytuno neu'n cytuno'n gryf bod defnyddio'r Gymraeg yn ychwanegu gwerth at gynnyrch neu wasanaeth;
84% yn cytuno neu'n cytuno'n gryf bod defnyddio'r Gymraeg yn gwella brand y busnes;
16% oedd yn cytuno neu'n cytuno'n gryf bod yr iaith Gymraeg wedi llesteirio'r busnes.
Dywedodd Gareth Davies, Cyfarwyddwr Rhanbarthol Lidl, eu bod yn "hynod falch o fod yn rhan o'r cymunedau rydym yn gweithredu ynddynt".
"Dyma pam rydym wedi cyflwyno arwyddion dwyieithog ym mhob un o siopau Lidl yng Nghymru," meddai.
Mae'r tîm hybu yn rhoi cefnogaeth a hyfforddiant i fusnesau ac elusennau i ddatblygu'r Gymraeg ym myd busnes.
Dywedodd John Turner, Pennaeth Rhanbarthol Marks and Spencer: "Heb os mae ein cwsmeriaid eisiau gwasanaeth Cymraeg, ac mae angen i ni felly gwrdd â'u disgwyliadau.
"Efallai na fydd hi bob amser yn hawdd egluro hyn i'm cydweithwyr y tu allan i Gymru. Ond mae tystiolaeth yn dangos sut mae'r Gymraeg o fudd i'n henw da a'i bod yn gallu ennill mwy o gwsmeriaid i'n siopau."
Y Gymraeg yn 'arf masnachol'
Dywedodd Gethin Edwards, sy'n arwain gwaith y Tîm Hybu, fod yna "wastad risg" wrth fynd ati i gomisiynu arolwg.
Ond dywedodd mai dim ond 24% o'r holl fusnesau yr oedd swyddfa Comisiynydd y Gymraeg wedi dod i gyswllt a nhw yn y gorffennol.
"Beth sy'n galonogol yw bod yr ymchwil yma'n dangos bod awydd i ddefnyddio'r Gymraeg fel arf masnachol ac i sefyll mas mewn byd cystadleuol," meddai.
Yr wythnos yma bydd y tîm hybu yn cynnal brecwastau busnes ledled Cymru i drafod canfyddiadau'r ymchwil - yng Nghaerdydd, Aberystwyth a Bae Colwyn.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd7 Tachwedd 2014
- Cyhoeddwyd21 Rhagfyr 2016
- Cyhoeddwyd27 Tachwedd 2018