Apêl i greu enwau torfol newydd yn y Gymraeg
- Cyhoeddwyd
Enwau torfol ydi geiriau sy'n disgrifio llawer o bethau, e.e gyrr o wartheg ond beth yw'r enwau torfol am eiriau sydd yn fwy newydd i'r Gymraeg, fel hunlun?
Mae'r ieithydd Llion Jones eisiau creu enwau torfol cyfoes Cymraeg - ac mae'n galw am help.
Ar raglen Aled Hughes fe gynigodd ambell un newydd, fel:
Perllan o ffonau clyfar
Stomp o wleidyddion
Rŵan mae o'n gobeithio bydd 'na bobol eraill yn ymuno i greu mwy.
"Un arwydd o iaith fyw ydi bod pobl yn creu drwy'r iaith honno," meddai.
"A be' sy'n braf efo enwau torfol ydi 'da chi'n defnyddio geiriau sy'n bodoli'n barod i greu darluniau newydd yn y meddwl.
"Mae 'na betha 'da ni'n weld rŵan mewn clystyrau, pethau fel ffonau clyfar ac ati - pam ddim cael enw torfol am y ffonau yma sydd ar bob un bws, pob swyddfa?
"Nes i feddwl am 'berllan o ffonau clyfar'....ond mae 'na wneuthurwyr eraill hefyd yn does.
"Dwi'n meddwl byddai'n braf cael enwau torfol am bawennau llawen... neu beth am gyflwynwyr radio? Hunluniau?
"Falle bod hwn y math o beth allai fynd ar y cyfryngau cymdeithasol achos mae pobl yn ddyfeisgar a fasa pobl yn gallu cynnig eu henw torfol newydd eu hunain.
"Mae'n rhywbeth sy'n digwydd yn reit gyffredin yn Saesneg. Os sbïwch chi ar yr hashnod modern collective nouns mi welwch chi nifer fawr o enghreifftiau.
"Dwi'm yn gwybod pam lai na fedrwn ni gael hashnod 'enwau torfol cyfoes' neu rywbeth felly."
Calchiadau o wylanod
Ychwanegodd Llion Jones bod y diweddar Athro Gwyn Thomas wedi creu nifer o rai cyfoes am anifeiliaid.
Meddai: "Er enghraifft, 'senedd o asynnod' - mae hwn yn cyplysu styfnigrwydd asynnod a styfnigrwydd gwleidyddion. Ond hwn ydi'n ffefryn i - 'calchiadau o wylanod'.
"Mae hwnnw'n glyfar. Yn amlwg mae'r lliw calch, y lliw gwyn, ond dwi'n meddwl bod yr 'l' ymwthiol yn gwneud i ni feddwl am rhywbeth arall 'da ni'n cysylltu efo gwylanod.
"Beth sy'n bwysig efo enw torfol ydi bod o'n air sy'n disgrifio'r grŵp, ond gorau oll os ydi o hefyd yn datgelu rhywbeth am natur neu gymeriad y grŵp."
Felly i ysbrydoli darllenwyr Cymru Fyw dyma restr o enwau torfol - yr hen a'r newydd
Enwau torfol traddodiadol
Diadell o ddefaid - mae hwn yn cael ei ddefnyddio ym Meibl William Morgan
Cenfaint o foch - term sydd yn bodoli yng nghyfreithiau'r canol oesoedd
Praidd o lewod
Gyrr o wartheg
Enwau torfol yr Athro Gwyn Thomas
Gwynfyd o elyrch
Calchiadau o wylanod
Senedd o asynnod
Cyfrinfa o lwynogod
Clegar o wyddau
Cynigion newydd Llion Jones
Perllan o ffonau clyfar
Stomp o wleidyddion
Murmur o leianod
Gormes o drydarwyr
Cynigion gwrandawyr Radio Cymru
Maliad o gyflwynwyr radio
Nansi o delynnau teires
A'ch perlau chi....?
Oes ganddoch chi gynnig ar enw torfol am hunluniau, ffonau symudol neu unrhywbeth arall?
Cysylltwch â cymrufyw@bbc.co.uk neu lenwi'r ffurflen isod: