Myfyrwyr Bangor yn protestio yn erbyn aflonyddu rhywiol
- Cyhoeddwyd
Fe wnaeth tua 100 o bobl orymdeithio ar stryd fawr Bangor nos Iau yn erbyn aflonyddu rhywiol all rhai myfyrwyr ei wynebu.
Yn ôl Undeb Myfyrwyr Prifysgol Bangor, wnaeth drefnu'r brotest, bwriad y noson oedd ceisio "rhoi hyder i fyfyrwyr" wrth fynd allan gyda'r nos.
Dywedodd Elan Pierce, sy'n fyfyriwr ym Mhrifysgol Bangor, ei bod hi'n broblem y "mae rhan fwyaf o ferched yn ei wynebu".
"Ar nosweithiau allan a ballu, mae dynion yn gallu bod yn rhy forward a rhyfedd. 'Dio'm yn brofiad neis iawn."
'Teimlo'n saff'
Ychwanegodd: "'Swn i byth yn mynd allan ben fy hun gyda'r nos. Sydd ddim yn neis bod ni methu teimlo'n saff lle 'ydym ni.
"Mae noson fel heno yn dangos fod yna gymdeithas a chefnogaeth. Mae'n codi ymwybyddiaeth i bobl sydd ddim yn gweld faint o broblem ydy o."
Dywedodd Gethin Morgan, Llywydd Undeb Myfyrwyr Cymraeg Bangor mai bwriad y noson oedd "rhoi'r hyder i fyfyrwyr fynd allan".
"Mae heno yn noson 'Adennill y Nos' sydd yn annog merched a bechgyn i fod yn ddiogel ar y strydoedd. 'Da ni eisiau gweld nhw'n hyderus.
"O bryd i'w gilydd 'da ni yn clywed am ambell achos.
"Mae'n bwysig i sicrhau fod pobl yn ymwybodol a bod myfyrwyr yn teimlo'n ddiogel ac yn hyderus ar nosweithiau allan."