Marwolaethau yn y gaeaf ar ei uchaf y llynedd ers 1975

  • Cyhoeddwyd
Eira Llanuwchllyn
Disgrifiad o’r llun,

Fe gafodd nifer o ardaloedd Cymru eu taro gan dywydd drwg ym mis Mawrth eleni

Mae amcangyfrif fod yna 3,400 o farwolaethau ychwanegol wedi bod yng Nghymru yn ystod misoedd y gaeaf yn 2017/18 yn ôl ffigyrau gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol (ONS).

Mae'r ffigyrau'n awgrymu fod 50,100 yn fwy o farwolaethau ychwanegol wedi bod yng Nghymru a Lloegr yn yr un cyfnod, y ffigwr uchaf ers gaeaf 1975/6.

Mae'r ffigyrau hefyd yn dangos fod y cynnydd mwyaf wedi bod yng Nghymru o gymharu â holl ranbarthau Lloegr.

Gwelwyd y cynnydd mwyaf yn y grŵp o bobl rhwng 65-74 oed yng Nghymru. Mae'r ffigyrau yma dair gwaith yn fwy yn 17/18 nag yn 16/17, ac yn codi i 400 o farwolaethau o gymharu â 140 yn y flwyddyn flaenorol.

Mae ffigyrau'r ONS yn dangos fod y cynnydd mwyaf wedi bod ym Mhowys o gymharu ag awdurdodau lleol eraill, gyda'r cwymp mwyaf o ran marwolaethau ar Ynys Môn.

Mae'r ONS yn edrych ar y gwahaniaeth rhwng nifer y marwolaethau yn ystod y pedwar mis gaeafol, ac yna'n cymharu gyda chyfartaledd niferoedd y bobl a fu farw rhwng Awst a Thachwedd a rhwng Ebrill a Gorffennaf y flwyddyn wedyn.

Ar y cyfan mae ffigyrau Cymru a Lloegr yn dangos fod y cynnydd ar ei uchaf ar gyfer 2017/18 ar ddechrau mis Ionawr, sy'n cydfynd â'r ffigyrau yn ystod y gaeafau blaenorol yn ôl yr ONS.

'Tywydd gwael'

Mae'r ffigyrau yn dangos fod un o bob tri o'r marwolaethau wedi digwydd oherwydd anhwylder anadlu.

Dywedodd Dr Simon Cottrell o Iechyd Cyhoeddus Cymru: "Yng Nghymru roedd y ffigyrau uchel yn amlwg pan oedd niferoedd y ffliw ar ei uchaf ym mis Ionawr 2018.

"Gwelwyd tywydd gwael yn ystod gaeaf 2017/18, yn enwedig ar ddechrau mis Mawrth, gyda chwymp eira a thymheredd dan y rhewbwynt yn ystod y dydd ar draws y wlad.

"Mae'r ffactorau yma'n helpu i egluro'r lefelau uchel o farwolaethau yng Nghymru yn ystod gaeaf 2017/18 i'w gymharu â gaeafau eraill diweddar."

'Cwmwl du'

Wrth ymateb i'r ffigyrau, dywedodd llefarydd y Ceidwadwyr Cymreig ar Iechyd, Angela Burns: "Dyma mwy o brawf bod Llywodraeth Cymru yn methu yn ei chyfrifoldeb i warchod ei phobl yng nghyfnod caleta'r flwyddyn.

"Waeth beth mae gweinidogion yn ei ddweud am bwysau'r gaeaf, y realiti yw fod gormod o bobl yn marw yng Nghymru, nid yn unig o gymharu â chyfartaledd Lloegr, ond bob rhanbarth o fewn Lloegr.

"Ar hyn o bryd mae pobl Cymru yn mynd i mewn i'r gaeaf gyda chwml du anghyffyrddus iawn drostyn nhw."