Dŵr Cymru: Llai na 100 heb ddŵr wedi Storm Emma
- Cyhoeddwyd
Mae Dŵr Cymru wedi cadarnhau fod cyflenwad dŵr wedi'i adfer i'r rhan fwyaf o gartrefi ar ôl Storm Emma.
Fe weithiodd staff dros nos i drwsio peipiau oedd wedi byrstio, ar ôl i dros 1,000 eiddo yng Ngheredigion, Sir Benfro ac Ynys Môn gael eu heffeithio.
Roedd rhai cwsmeriaid heb ddŵr ers dydd Gwener, gyda nifer yn anhapus gyda'r oedi i dderbyn poteli dŵr.
Mae Dŵr Cymru wedi ymddiheuro gan ddweud eu bod yn ymateb i 200 o ddigwyddiadau pob dydd.
Mae'r cwmni wedi cadarnhau fod llai na 100 eiddo bellach heb gyflenwad dŵr.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd6 Mawrth 2018