Ceidwadwyr Cymreig yn addo dyblu'r nifer o dai newydd
- Cyhoeddwyd
Mae'r Ceidwadwyr Cymreig wedi addo dyblu'r nifer o dai newydd sy'n cael eu hadeiladu bob blwyddyn os fyddan nhw mewn grym wedi'r etholiadau Cynulliad nesaf.
Cafodd tua 6,000 o dai newydd eu hadeiladu yn y 12 mis i fis Mehefin eleni, i lawr 19% ar y flwyddyn flaenorol.
Dywedodd y Toriaid y byddan nhw'n anelu i godi'r ffigwr yna i 12,000 pob blwyddyn.
Bydd Ceidwadwyr Cymru yn lansio ei strategaeth ar dai ddydd Llun, gyda'r targed yn ganolog i'r lansiad.
Mae'r blaid eisiau creu amgylchedd lle mae'n haws i gwmnïau preifat, cymdeithasau tai a chynghorau allu adeiladu cartrefi newydd.
Mae'n debyg bod polisïau'n cynnwys trethu trafodion tir - y fersiwn Gymreig o'r dreth stamp - ar gyfer prynwyr tro cyntaf ar eiddo hyd at £250,000, codi cyfyngiadau benthyca ar dai cymdeithasol a chofrestr statudol o safleoedd tir brown addas.
Bydd y blaid yn lansio "rhaglen uchelgeisiol" i adeiladu 12,000 o gartrefi bob blwyddyn yn ystod y tymor Cynulliad nesaf, sy'n rhedeg o 2021 i 2026, a 100,000 o gartrefi dros 10 mlynedd.
Mae Llywodraeth Cymru wrthi'n gweithio tuag at darged o adeiladu 20,000 o dai fforddiadwy yn nhymor y Cynulliad presennol, sy'n dod i ben yn 2021.
Mae wedi dweud ei fod yn gwario £1.7bn ar dai.
Wrth siarad â rhaglen Sunday Politics Wales, dywedodd llefarydd y Ceidwadwyr Cymreig ar dai, David Melding, bod yn rhaid i'r pleidiau gytuno ar dargedau uchelgeisiol.
Dywedodd lleisiau o'r sector tai eu bod yn credu bod modd cyrraedd y prif darged o adeiladu 12,000 o gartrefi'r flwyddyn.
"Fel mae'n sefyll dim ond pum cwmni yng Nghymru sy'n adeiladu 80% o'r holl gartrefi newydd," meddai Ifan Glyn o Ffederasiwn Meistr Adeiladwyr Cymru.
Dywedodd Clarissa Corbisiero-Peters o Gymuned Tai Cymru, sy'n cynrychioli'r sector tai cymdeithasol: "Rydym ni'n awyddus ond allwn ni ddim ei wneud ar ein pennau ein hunain felly mae angen inni weithio gyda'n partneriaid llywodraeth leol, ein partneriaid yn iechyd a'n partneriaid yn Llywodraeth Cymru i allu gwneud hynny."
Ychwanegodd y byddai ei sefydliad, sy'n cynrychioli adeiladwyr tai, yn hoffi adeiladu 75,000 o gartrefi erbyn 2036.
Sunday Politics, BBC One Wales, 11:00, 2 Rhagfyr