Ateb y Galw: Yr actor Aneirin Hughes

  • Cyhoeddwyd
Aneirin Hughes

Yr actor Aneirin Hughes, o'r cyfresi poblogaidd Y Gwyll ac Un Bore Mercher, sy'n Ateb y Galw yr wythnos yma wedi iddo gael ei enwebu gan Gillian Elisa yr wythnos diwethaf.

Beth ydi dy atgof cyntaf?

John Henry Lefel Gopr yn ceisio neud i fi chwerthin fel un bach yn y pram. Ni allaf fynd mewn i'r manylion, rwy'n dal i gael triniaeth.

Pwy oeddet ti'n ei ffansio pan yn iau?

Valerie Singleton ac Auntie Gwladys.

Beth oedd y digwyddiad a gododd y mwya' o gywilydd arnat ti erioed?

Bo' fi'n ffansio Auntie Gwladys.

Pryd oedd y tro diwethaf i ti grïo?

Pan droiodd Valerie Singleton fi lawr.

Valerie Singleton
Disgrifiad o’r llun,

Mae cariad Aneirin tuag at Valerie yn fythol

Oes gen ti unrhyw arferion drwg?

Oes.

Dy hoff le yng Nghymru a pham?

Penbontrhydybeddau - lle fy magwyd.

Y noson orau i ti ei chael erioed?

Nosweithiau pan anwyd y plant.

line

O archif Ateb y Galw:

line

Disgrifia dy hun mewn tri gair

Druid, Cŵps, Maes.

Beth yw dy hoff lyfr neu ffilm?

The Cloud Of Unknowing gan A. Nonymous. Achos ma' wastad rhywbeth i ddysgu.

Byw neu farw, gyda phwy fyddet ti'n cael diod. Pam?

Gérard Depardieu. Achos ma' hwnna'n gwbod shwd i yfed.

Gérard Depardieu
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r actor Gérard Depardieu yn gallu yfed... ond efallai fod hynny wedi ei gael i mewn i drwbl weithiau...

Dyweda rywbeth amdanat ti dy hun nad oes yna lawer o bobl yn ei wybod.

Dechreuais Gôr Meibion yn Nhrefynwy.

Ar dy ddiwrnod olaf ar y blaned, beth fyddet ti'n ei wneud?

Cael peint a rhoi'r byd yn 'i le - fel pob dydd arall.

Beth yw dy hoff gân a pham?

Dove sono i bei momenti allan o Le Nozze di Figaro, lle mae'r Countess Almaviva yn canu am anffyddlondeb ei gŵr, yr hen Count.

Cwrs cyntaf, prif gwrs a phwdin - beth fyddai'r dewis?

Cwrs cyntaf, sawl un, digon o amrywiaeth - a moules mariniére heb hufen.

Moc Thomas
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Aneirin yn edrych ychydig llai trwsiadus nag arfer wrth bortreadu Moc Thomas ar Pobol y Cwm

Petaset yn gallu bod yn rhywun arall am ddiwrnod, pwy fyddai fo/hi?

Peter Purves - cyn-gariad i Valerie Singleton.

Pwy sydd yn Ateb y Galw yr wythnos nesaf?

Lisa Victoria

Y gorau o Gymru ar flaenau dy fysedd

Lawrlwytha ap BBC Cymru Fyw