Euog o fasnachu pobl ar gyfer dibenion rhyw yn Wrecsam
- Cyhoeddwyd

Mae dau ddyn a gafodd eu cyhuddo o fynd â merched o gartref gofal yn Wrecsam ar gyfer dibenion rhyw wedi'u cael yn euog o fasnachu pobl er mwyn camfanteisio arnynt yn rhywiol.
Cafwyd John James Purcell, 31 oed o Ellesmere Port a John Delaney, 33 o Wrecsam yn euog o nifer o gyhuddiadau mewn achos yn Llys y Goron Yr Wyddgrug.
Clywodd yr achos bod dwy ferch o dan oedran ac a oedd mewn gofal wedi'u cymryd ar gyfer dibenion rhyw sawl gwaith yn ystod 2011 a 2012.
Dyw'r rheithgor ddim wedi dyfarnu'n llawn hyd yma ac fe fyddant yn parhau â'u hystyriaethau fore Iau.
Fe gafodd John Delaney ei ganfod yn euog o dair trosedd masnachu ar gyfer dibenion rhyw - mae e hefyd yn wynebu un cyhuddiad o dreisio ac un o ymosod yn rhywiol.
Cafwyd John James Purcell yn euog o bedair trosedd masnachu er mwyn camfanteisio'n rhywiol.
Mae trydydd diffynnydd - Todd James Wickens yn gwadu cyhuddiad o fasnachu person er mwyn camfanteisio'n rhywiol a chyhuddiad o dreisio.