Gwahardd dynes o'r Bala am benio stiward cyn gêm bêl-droed

  • Cyhoeddwyd
Stadiwm Dinas CaerdyddFfynhonnell y llun, Getty Images

Mae dynes o'r Bala wedi cael ei gwahardd rhag mynd i gemau pêl-droed am dair blynedd wedi iddi ymosod ar stiward cyn gêm ryngwladol.

Mae Lois Griffiths, 41, wedi cyfaddef iddi ymosod ar y dyn yn Stadiwm Dinas Caerdydd ar 16 Tachwedd cyn y gêm rhwng Cymru a Denmarc.

Dywedodd y Cwnstabl Christian Evans, a fu'n ymchwilio i'r digwyddiad, bod Griffiths wedi bod yn "yfed drwy'r dydd" ynghanol y ddinas ond ar ôl iddi sobri ei bod hi'n cywilyddio am ei hymddygiad.

Clywodd Llys Ynadon Caerdydd bod Griffiths wedi mynd yn rhwystredig am yr amser yr oedd hi'n ei gymryd i fynd mewn i'r stadiwm ar noson y gêm.

Peniad i'r stiward

Pan ddaeth un o staff y stadiwm ati fe beniodd Griffiths y stiward gan achosi i'w drwyn agor a'i ddwy lygad i gleisio.

Cafodd ei harestio ar dir y stadiwm a'i holi yng ngorsaf heddlu Bae Caerdydd.

Bydd yn rhaid i Griffiths wneud 200 o oriau o waith heb dâl o fewn y 12 mis nesaf a chafodd orchymyn i dalu costau o £170.

Ni fydd hawl ganddi fynd i unrhyw gêm bêl-droed yn y Deyrnas Unedig am dair blynedd a bydd yn rhaid iddi ildio ei phasbort cyn bob gêm ryngwladol Cymru oddi cartref.