Cerbydau llywodraeth yn dinistrio cors wrth asesu tir M4
- Cyhoeddwyd
Mae grŵp amgylcheddol wedi cyhuddo contractwyr Llywodraeth Cymru o achosi dinistr i ran o gors warchodedig wrth asesu llwybr newydd posib yr M4.
Dywedodd Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Gwent fod cerbydau wedi mynd yn sownd a chwalu'r tir ar ran o warchodfa natur Cors Magor.
Suddodd un cerbyd arbenigol, cyn i gerbyd aeth i'w achub hefyd fynd i drafferth - gan olygu bod angen trydydd cerbyd i achub y ddau arall.
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru mai'r tîm arolygu fyddai'n "ysgwyddo'r costau" ar gyfer y difrod.
'Cors wleidyddol'
Mae'r cerbydau wedi bod ar y safle'n gwneud gwaith asesu ar hyd y llwybr arfaethedig ble gallai ffordd liniaru newydd yr M4 gael ei hadeiladu.
Dywedodd yr ymddiriedolaeth fod cerbyd arbenigol gafodd ei anfon i'r safle i asesu llwybr arfaethedig yr M4 wedi mynd yn sownd mewn pridd mawnaidd.
Suddodd y cerbyd yn bellach ar ôl cael ei adael yno am gyfnod, cyn i gerbyd arall oedd wedi'i anfon i'w achub hefyd fynd yn sownd.
Cafodd trydydd cerbyd ei alw i achub y ddau arall - a hynny, meddai'r ymddiriedolaeth, yn dilyn digwyddiadau tebyg yn y gorffennol.
Cafodd y contractwyr ganiatâd i asesu'r gors, ond dywedodd yr ymddiriedolaeth eu bod wedi rhybuddio fod y tir yn feddal iawn mewn rhai mannau a'i fod yn boddi mewn glaw trwm.
"Mae'r digwyddiad yma ar Gomin Barecroft bron yn fetaffor o'r modd anhrefnus y mae Llywodraeth Cymru wedi ymdrin â'r 'llwybr du' ar gyfer yr M4," meddai prif weithredwr Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Gwent, Ian Rappel.
"Yng ngwyneb costau ecolegol, ariannol a chymdeithasol y cynllun arfaethedig yma, maen nhw wedi canfod eu hunain yn sownd mewn cors wleidyddol."
'Adfer yn ofalus'
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Yn sgil glaw trwm yn ddiweddar aeth cerbyd arolygu yn sownd ar Lefelau Gwent ar y ffordd i mewn i gae.
"Bydd y tîm arolygu yn cysylltu ag Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Gwent a Chyfoeth Naturiol Cymru fel y bo angen er mwyn sicrhau bod y cae yn cael ei adfer yn ofalus. Y tîm arolygu fydd yn ysgwyddo'r costau hyn."
Yr wythnos hon dywedodd Llywodraeth Cymru na fyddai pleidlais yn y Cynulliad ar ddyfodol y ffordd liniaru yn cael ei chynnal nes y bydd y Prif Weinidog nesaf wedi ei ethol.
Bydd Carwyn Jones yn camu o'r neilltu yr wythnos nesaf ac yn trosglwyddo'r awenau i arweinydd newydd y blaid Lafur yng Nghymru.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd4 Rhagfyr 2018