Gohirio'r bleidlais yn y Senedd ar ffordd liniaru’r M4

  • Cyhoeddwyd
Protest
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd protest ei gynnal tu allan i'r Senedd ddydd Mawrth gan wrthwynebwyr y cynllun

Mae'r bleidlais dyngedfennol ar ddyfodol ffordd liniaru'r M4 wedi ei gohirio tan fydd Prif Weinidog nesaf Cymru wedi ei ethol.

Cafodd ACau wybod fod pob un o'r tri ymgeisydd i olynu Carwyn Jones wedi ymrwymo i gynnal pleidlais.

Roedd bwriad i gynnal y bleidlais ddydd Mawrth, ond mae Llywodraeth Cymru yn dal i ystyried darganfyddiadau ymchwiliad cyhoeddus i'r cynllun.

Mae gwrthwynebwyr Llafur wedi dweud fod y blaid mewn "lle amhosibl", ond mae gweinidogion yn mynnu fod y broses yn un cymhleth ac nad oes modd rhuthro penderfyniad.

Roedd Mr Jones wedi bwriadu penderfynu os fyddai'r Llywodraeth yn hawlio tir a rhoi caniatâd cynllunio ar gyfer y ffordd 14 milltir o hyd cyn iddo ymddiswyddo fel Prif Weinidog wythnos nesaf.

Er bod yr adroddiad wedi ei gyflwyno i'r llywodraeth wythnosau yn ôl, mae Mr Jones yn dal i aros am gyngor cyfreithiol.

Disgrifiad o’r llun,

Mae disgwyl i'r cynllun gostio hyd at £1.4bn i'w gwblhau

Yr ail gam yn y broses fyddai penderfynu os fydd y llywodraeth yn gwario'r arian er mwyn dechrau'r gwaith adeiladu.

Er bod y cynlluniau yn rhan o'u maniffesto, mae gweinidogion wedi dweud nad ydynt yn bwriadu parhau â'r cynllun heb iddo gael ei gymeradwyo mewn pleidlais yn y Senedd.

Gan fod rhai ACau Llafur yn gwrthwynebu'r cynllun, nid oes sicrwydd pa ffordd y byddai'r Senedd yn ochri.

Dywedodd Arweinydd y Tŷ, Julie James, ei bod hi'n "holl bwysig" fod penderfyniad y Prif Weinidog yn seiliedig ar gyngor cyfreithiol.

"Nid cyflymder sy'n bwysig, cywirdeb sydd bwysicaf," meddai.

'Wedi eu parlysu'

Yn ôl arweinydd Plaid Cymru, Adam Price, mae'r llywodraeth yn "cuddio tu ôl i adroddiad yr ymchwilydd" ac wedi eu "parlysu" gan anghytundeb o fewn y pleidiau cefn.

Roedd Mr Price a'r AC Llafur Lee Waters ymhlith y rheiny oedd yn bresennol mewn protest ar risiau'r Senedd ddydd Mawrth yn erbyn y ffordd liniaru.

Mae grwpiau amgylcheddol wedi dweud eu bod yn bryderus am effaith y ffordd ar Wastadeddau Gwent, sydd yn cynnwys ardaloedd o ddiddordeb gwyddonol arbennig.

Ond wrth siarad ar Good Evening Wales dywedodd cadeirydd CBI Cymru, Mike Plaut, ei fod yn "embaras" nad oedd gwleidyddion wedi gwneud penderfyniad eto.

"Siawns y gallwn ni, fel gwlad fechan gyda datganoli, sortio'n hunain allan ac adeiladu'r ffordd yma," meddai.