Hanner can mlynedd o bantomeim Theatr Felinfach

  • Cyhoeddwyd
Panto Theatr FelinfachFfynhonnell y llun, Theatr Felinfach
Disgrifiad o’r llun,

Mae Theatr Felinfach yn bwrw ati'n flynyddol i ysgrifennu pantomeim gwreiddiol

Bydd 50fed pantomeim enwog Theatr Felinfach yn tynnu ysbrydoliaeth o'r newyddion ac o ddiwylliant a hiwmor Dyffryn Aeron.

Mae'r theatr gymunedol wedi pwysleisio nad oes dwy chwaer hyll, gwrachod na thywysogion yn agos i'r cynhyrchiad.

Yn ôl pennaeth Theatr Felinfach, mae "pantomeim y gymuned" yn dod â nifer ynghyd, a'r "bobl sydd bia'r cymeriadau, y straeon a'r hanesion".

Bydd perfformiad cyntaf Pan-to-a-to-a-to ar 8 Rhagfyr.

'Cadw'r fflam ynghyn'

Yn ôl Dwynwen Lloyd Llywelyn, Pennaeth Theatr Felinfach, y criw a'r cast gwirfoddol sy'n cynnal y panto ac yn "cadw'r fflam ynghyn".

"Yn hanesyddol, mae'n eiconig, a 'dwi'n credu ei fod e ymhlith, os nad, y pantomeim Cymraeg cyntaf," meddai.

"Dy'n ni ddim yn tynnu pantomeim Saesneg traddodiadol oddi ar y silff a'i gyfieithu e neu ei drosi."

"Dyma bantomeim y gymuned, y bobl sy' bia'r cymeriadau, y straeon a'r hanesion, a dyna be' dwi'n credu yw ei lwyddiant e mewn ffordd, bod e wedi cadw ei wreiddiau."

Disgrifiad o’r llun,

Mae Jackie Evans wedi ymddangos fel nifer o gymeriadau ers ei bantomeim cyntaf yn 1973

Ymddangosodd Jackie Evans - sy'n chwarae rhan Ben Ake eleni - yn y panto am y tro cyntaf yn 1973, pan agorodd y theatr.

"Mae'n glod mewn ffordd bo ni wedi gallu cadw'r peth i fynd achos mae'n beth hunan gynhyrchiol," meddai.

"Dim pantomeim traddodiadol yw e, ond mae'n cael ei greu a lot o storis wedi cael eu seilio ar hanes lleol.

"Mae wedi bod yn anrhydedd cael bod yn rhan ohoni."

Cyfle i'r gymuned

Dywedodd Rhian Dafydd, Rheolwr Busnes a Marchnata Theatr Felinfach, bod "cyfnod y pantomeim yn hynod o gyffrous bob blwyddyn".

"Mae'n rhoi cyfle i actorion, perfformwyr ac aelodau o'r gymuned gymryd rhan, ar lwyfan neu tu ôl i'r llenni," meddai.

Ffynhonnell y llun, Theatr Felinfach
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r gymuned gyfan yn dod ynghyd i greu'r pantomeim blynyddol yn Theatr Felinfach

Esboniodd Ms Dafydd bod tîm o wirfoddolwyr yn dod at ei gilydd bob blwyddyn i ddatblygu'r cynllun, y stori a'r sgript dan arweiniad Tîm Creadigol y Theatr.

"Maent yn dilyn amserlen theatr broffesiynol ac yn creu sioe fawr mewn amser byr."

"Mae'r cyfnod ymarferion yn fwrlwm ymhlith y cast, yr hwyl a thynnu coes a hefyd yn creu tipyn o gynnwrf."

Bydd Pan-to-a-to-a-to yn dechrau ddydd Sadwrn, 8 Rhagfyr, ac yn parhau o'r 10 Rhagfyr i'r 15 Rhagfyr.