'Dwi mewn lle da': Rhedeg hanner marathon am resymau arbennig

Mae hanner marathon Caerdydd yn parhau'n un o'r rasus mwyaf poblogaidd ym Mhrydain
- Cyhoeddwyd
Unwaith eto eleni bydd miloedd ar filoedd o redwyr yn cymryd rhan yn hanner marathon Caerdydd.
Bydd rhai yn rhedeg am y tro cynaf, eraill yn gobeithio am amser gwell na'r llynedd.
Mae rhai hefyd yn rhedeg am resymau arbennig iawn.
Rhiannon Bending, 36, Pen-y-bont
Roedd Rhiannon Bending fod i redeg y llynedd, ond tra'n paratoi ar gyfer y ras fe aeth yn sâl.
"Dechreuais deimlo'n sâl ym mis Mehefin, ac ym mis Gorffennaf fe wnes i collapsio gartef," meddai.
"O'n i ddim yn medru cerdded, na gwneud unrhywbeth rili.
"Ym mis Medi es i i weld niwrolegydd a mi ges i ddiagnosis o multiple sclerosis."
Bydd Rhiannon Bending yn rhedeg hanner marathon Caerdydd flwyddyn wedi iddi gael diagnosis o sglerosis ymledol
Er ei bod hi'n cyfaddef fod y 12 mis diwethaf wedi bod yn anodd a heriol ar adegau, mae paratoi ar gyfer yr hanner marathon wedi bod o gymorth iddi.
Fe roddodd ei henw i lawr ym mis Hydref y llynedd, cyn penderfynu ym mis Ionawr y byddai hi'n sicr yn cymryd rhan.
"Dwi wedi gweithio'n galed i allu cerdded a rhedeg eto - ac o'n i ishe rhywbeth i ganolbwyntio arno.
"Pan oedd fy nghoesau mewn poen tra'n ymarfer, doeddwn i ddim yn gwybod os mai MS oedd yn gyfrifol am hynny. Mi oeddwn i'n poeni lot.
"Dwi wedi cael lot o help gan wahanol bobl, a dwi'n teimlo mewn lle da ar y funud.
"Dwi'n codi arian i'r MS Society, ac mae pawb wedi bod yn hael iawn."
Livi Melville-Jones, 28, Abertawe
Bydd Livi Melville-Jones yn codi arian i elusen Latch - elusen canser plant - ar ôl iddyn nhw fod yn help mawr iddi hi a'i theulu.
Yn 2015 cafodd chwaer Livi, Charlotte, wybod fod ganddi gyflwr difrifol o'r enw Aplastic anaemia - lle mae mêr esgyrn (bone marrow) yn stopio gwneud celloedd gwaed newydd.

Roedd Charlotte a Livi i fod i redeg yr hanner marathon gyda'i gilydd ddydd Sul
"Mi oedd hi angen rhywun i roi mêr esgyrn iddi. Mi es i, mam a dad am brofion - ac mi oeddwn i yn rhoddwr perffaith," meddai Liv.
"Yn dilyn y trawsblaniad mi oedd hi'n gorfod cael ei hynysu am dri mis - doedd hi ddim yn cael dod i gyswllt gyda neb.
"Mae 'na chwe blynedd wedi bod bellach, ac mae hi'n heini ac yn iach er ei bod hi dal yn gorfod cael apwyntiadau yng Nghaerdydd a Llundain."
Roedd Livi a Charlotte fod i redeg yr hanner marathon gyda'i gilydd ddydd Sul, ond mae Charlotte wedi gorfod tynnu yn ôl.

Bydd Livi Melville-Jones yn codi arian i elusen canser plant, Latch
"Yn anffodus mae hi wedi dioddef anaf i'w phigwrn wythnos yma. Gobeithio y bydd hi'n gallu bod yno i gefnogi," ychwanegodd Livi.
"Mae codi arian i Latch yn teimlo'n wych. Mi oedd y gefnogaeth gafon ni ganddyn nhw yn anhygoel.
"'Da ni ishe rhoi rhywbeth yn ôl i elusen wych fuodd yn help mawr i ni yn ystod cyfnod anodd iawn.
"Dwi wedi rhedeg un hanner marathon o'r blaen - fe redais yr un yn Abertawe y llynedd, ond fe ges i tonsilitis ychydig ddyddiau cyn y ras.
"Dwi'n edrych ymlaen i redeg un lle dwi ddim yn ei gweld hi'n anodd i yfed dŵr!"
Dani Rowe MBE, 34, Caerdydd
Fe gafodd Dani Rowe dipyn o yrfa ar ei beic.
Enillodd fedal aur yng Ngemau Olympaidd Llundain yn 2012 yn y ras gwrso i dimau.
Roedd 'na fedalau aur hefyd ym Mhencampwriaethau'r Byd, yn ogystal â medal efydd tra'n cystadlu dros Gymru yng Ngemau'r Gymanwlad yn 2018.

Dani Rowe yn dathlu ennill medal aur yng Ngemau Olympaidd 2012
"Pan o'n i'n beicio doedd gen i ddim hawl gwneud unrhyw redeg o gwbl," meddai.
"Felly pan nes i ymddeol, yn syth bin nes i ddechrau rhedeg.
"Ond doedd fy nghorff i ddim wedi arfer gyda'r math yma o ymarfer corff.
"Mi o'n i'n cal stress-fractures - mi oedd o fel nad oedd fy esgyrn yn ddigon cryf er mwyn gallu rhedeg yn bell.
"Mi es i nôl i gerdded mwy, cyn cychwyn rhedeg eto, a dros y blynyddoedd diwethaf dwi wedi gwneud hanner marathon Manceinion a marathon Llundain."

Dywedodd Dani Rowe fod "rhedeg yn rhan mor bwysig o fy mywyd"
Yn wreiddiol o Hampshire, fe gychwynodd ei gyrfa seiclo yn cynrhychioli Lloegr.
Ond ar ôl priodi'r seiclwr a'r Cymro Matt Rowe yn 2017, fe aeth yn ei blaen i gynrhychioli Cymru.
Bellach yn byw yng Nghaerdydd gyda Matt a dau o blant, mae hi'n anelu am amser cyflym iawn ddydd Sul.
"Dwi'n targedu gorffen y ras o fewn 90 munud - ond dwi'n gwybod na fydd hynny'n hawdd.
"Mae gwneud ymarfer corff yn rhywbeth pwysig iawn i fi - yn gorfforol ac yn feddyliol.
"Dwi'n berson gwell ac yn fam well ar ôl gwneud ymarfer corff, felly dyna pam fod rhedeg yn rhan mor bwysig o fy mywyd y dyddiau yma."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd16 Mehefin
- Cyhoeddwyd16 Mai 2024
- Cyhoeddwyd18 Hydref 2024