Ymdopi â'r menopôs yn eich 40au
- Cyhoeddwyd
Yn ddiweddar, bu rhaglen Yr Hanner Call ar BBC Radio Cymru'n trafod y menopôs gyda'r awdures Bethan Gwanas, Dr. Teleri Mair a Julie Howatson Broster.
Roedd Julie wedi profi'r menopôs yn gynharach na'r mwyafrif ac roedd darganfod y rheswm dros y newidiadau yn ei chorff a'i chymeriad yn daith hir a phoenus. Dyma'i hanes:
Roedd Mam yn dweud fod hi wedi mynd trwyddo fo a dim symptomau o gwbl... ambell i flush efallai, ond yr arwydd cyntaf cefais i fod rhywbeth yn digwydd oedd croen sych.
O'n ni byth 'di cael spots nag acne ond o'n ni wedi troi 40 a blwyddyn ar ôl hynny, nes i fynd i sgio a sylweddoli ar ôl dod nôl bod fy nghroen i lot yn fwy sych nag oedd o fel arfer. O'n i'n meddwl ar y pryd bo' fi ddim wedi yfed digon o ddŵr.
Ond wedyn wnaeth o gario 'mlaen a troi'n rosacea, sef cochni tros y bochau a dros y trwyn ac wedyn cododd ambell i sbotyn oedd yn edrych fel boils. O'n i'n meddwl falle fod o'n rhywbeth o'n i wedi'i fwyta, felly wnes i drio newid diet ond wnaeth o dal waethygu, tan yn y diwedd o'n i ar antibiotics ar gyfer acne.
Problemau'n tyfu
Wedyn newidodd ambell i beth arall. O'n i'n isel iawn yn fy hun, sydd ddim yn arferol o gwbl. Mae pawb sy'n nabod fi'n gwybod bo' fi byth 'di bod yn berson isel. Dwi'n llawn bywyd ac yn mwynhau bywyd ac yn dipyn o show off rîli...
O'n ni'n meddwl taw stress oedd o, ond o'n i heb sylweddoli bod fi ar rhyw fath o slippery slope. Oedd fy hyder wedi dechrau mynd ac o'n i'n teimlo'n reit paranoid.
Ar y pryd, o'n i'n rhedeg dau fusnes ac o'n ni'n dweud wrth fy hun, 'Julie, ti'n gwneud gormod', ac o'n i'n credu bod fi jest ddim yn medru ymdopi.
Ond ar un adeg, aeth pethau mor wael wnes i lwyddo i dwyllo fy hun bod fi'n marw o ganser. Erbyn hyn mae hynna'n swnio'n rhywbeth sili i ddweud, ond doedd 'gen i ddim syniad bod fi'n mynd drwy'r menopôs ac o'n i methu deall pam fod pethau'n newid cymaint.
Pob prawf yn glir
O'n i'n cael profion gwaed ac roedd rheini'n dweud fod pob dim yn iawn, so o'n i'n meddwl, gosh, mae'n rhaid bod fi naill ai'n mynd yn hollol bonkers, neu'n cychwyn efo depression neu rhywbeth.
O'n i'n gwybod fod rhywbeth ddim yn iawn a dyna pryd ddechreuais wneud ychydig o waith ymchwil ac amau'r menopôs, achos erbyn hynny roedd pob math o bethau wedi cychwyn digwydd i fy nghorff. Ges i bowel prolapse a vaginal prolapse a diwedd y stori oedd bod fi wedi gorfod cael hysterectomy gan bod fi wedi bod yn dioeddef o endometriosis - eto, heb i mi wybod.
Cyn i mi gael yr hysterectomy, ro'n i'n dioddef gyda fy ysgwyddau a fy nghefn a ges i frozen shoulder am rhyw flwyddyn. Yn y diwedd oedd rhaid i mi orffen gweithio achos o'n i'n methu gwneud reflexology a massage.
Dyna pryd gefais i brawf am athritis a rheumatoid athritis ac wrth gwrs ddaeth yn ôl yn glir. Felly roedd y menopôs wedi effeithio fy esgyrn a joints oherwydd y newid hormones mae'n debyg... ac roedd hynna'n sioc mawr.
Cyfnod i wella
Ar ôl i mi gael yr hysterectomy, wnes i benderfynu cymryd blwyddyn i ffwrdd, er mwyn cael amser i nghorff wella a wnes i fynd yn hollol mad efo edrych ar fyw yn iach a deiet iach a gorffwyso pryd oedd angen.
Felly mi wnes i droi o mewn i rhywbeth positif gan bod fi wedi sylweddoli os na fyddwn i, yna fyddwn i ddim yn medru gweithio tan dwi'n tua 60.
Dwi'n amau fod hyn wedi digwydd yn gynnar i mi oherwydd stress... ar ôl siarad gyda lot o bobl eraill rwy'n gweld erbyn hyn bod 'na batrwm.
Mae [menopôs cynnar] yn tueddu i ddigwydd i bobl sydd yn mynd drwy bethau fel colli rhywun yn eu bywydau neu cael sioc mawr teuluol, neu sioc oherwydd gwaith.
Fel dwi 'di dweud, o'n ni'n rhedeg dau fusnes ac yn gweithio pob math o oriau sili a dwi'n meddwl fod hyn wedi dechrau newid fy nghorff yn gyfan gwbl.
Does dim dwywaith bod o wedi effeithio ar y teulu hefyd, ac wrth edrych yn ôl at y cyfnod cyn i mi gael yr hysterectomy ac HRT, [hormone replacement therapy] mae fel edrych ar Julie hollol wahanol.
Ar yr adeg yma o'n ni'n mynd trwy uffern a roedd y teulu hefyd mae'n rhaid ond roedd fy ngŵr yn wych chwarae teg iddo.
Er mae un peth yn hynod annoying... 'da chi'n gwybod pan 'da chi'n cael eich period ac yn cael dadl mae'ch partner yn dweud...'Oh! Adeg y mis!', wel rwan mae'n beio'r menopôs.
Cofiwch dyna gyd sy'n rhaid i mi wneud yw rhoi'r stare 'ma arno, a mae'n sylweddoli bod o 'di mynd yn rhy bell!