Cwpan Her Ewrop: Northampton Saints 48-14 Dreigiau
- Cyhoeddwyd
Fe giciodd Dan Biggar wyth pwynt wrth i Northampton ennill o 48-14 yn erbyn y Dreigiau yng Nghwpan Her Ewrop.
Fe groesodd Luther Burrell gyda llai na munud ar y cloc cyn i Api Ratuniyarawa a James Fish ychwanegu mwy o bwyntiau yn yr hanner cyntaf i'r tîm cartref.
Llwyddodd Adam Warren i gau'r bwlch gyda chais, cyn i Burrell ac Alex Mitchell ymateb.
Roedd dau gais gan Taqele Naiyaravoro yn ddigon i sicrhau'r fuddugoliaeth i Northampton.
Croesodd Nic Cudd am gais hwyr i'r Dreigiau ac fe sgoriodd Ollie Sleightholme wythfed cais Northampton.