Drakeford eisiau cabinet cyfartal 50-50 o ddynion a merched
- Cyhoeddwyd
Mae Mark Drakeford wedi cadarnhau bydd ei lywodraeth newydd yn cynnwys balans cyfartal 50-50 o ddynion a merched wrth iddo baratoi i olynu Carwyn Jones ddydd Mercher.
Llwyddodd Mr Drakeford i ennill y ras i arwain Llafur Cymru wrth i Carwyn Jones baratoi i sefyll lawr fel arweinydd wedi naw mlynedd wrth y llyw.
Vaughan Gething ac Eluned Morgan oedd y ddau wrthwynebwr yn y ras i ddod yn arweinydd nesaf Llafur Cymru.
Dywedodd Mr Drakeford wrth raglen Sunday Politics ei fod yn bwriadu bwrw ymlaen gyda'r addewid yn ei faniffesto.
Newid y Cabinet
Bydd ACau yn cael eu croesawu i'w enwebu yn y Senedd ddydd Mercher pan fydd Plaid Cymru a'r Ceidwadwyr hefyd yn rhoi ei arweinwyr ymlaen i fod yn brif weinidog nesaf Cymru.
Os bydd Mr Drakeford yn ennill, bydd yn llunio ei lywodraeth newydd ac mae wedi dweud yn barod ei fod yn awyddus i newid y ffordd mae'r cabinet yn gweithio, ac i sicrhau mwy o amser i ystyried heriau hir dymor.
"Os byddai mewn sefyllfa i lunio cabinet - ac fel i mi ddweud yn y maniffesto - Dwi'n bwriadu cael balans rhwng merched a dynion yn Llywodraeth Cymru," meddai.
Fe ddywedodd Mr Drakeford mai'r sialens iddo fydd i godi proffil Llywodraeth Cymru a'i broffil personol ymysg pobl Cymru.
'Anhysbys'
"Dwi'n gweld y dilema, ond dwi'n credu bod mwy na un ffordd i daclo bod yn anhysbys.
"Dwi'n credu mae bod yn gliriach gyda phobl a bod yna grŵp ohonom sy'n gysylltiedig gyda'r llywodraeth yn ffordd dda o dorri'r anhysbysrwydd yna.
"Does dim posib i un person fod ymhobman yng Nghymru yn gwneud popeth.
"Rwyf wedi dweud eioes, yn fy nghabinet bydd yna weinidog o ogledd Cymru fydd yn arwain y llywodraeth ar faterion ble mae pethau sy'n bwysig i ogledd Cymru yn codi.
"Math yna o beth dwi yn ei olygu drwy gael llywodraeth gydweithredol ac mae'n helpu gydag anhysbysrwydd.
"Dwi'n credu ei fod yn golygu fod mwy o leisiau, mwy o wynebau a mwy o gyfleoedd i bobl Cymru gysylltu â Llywodraeth Cymru, a fy nod yw torri lawr y rhwystrau hynny drwy weithredu fel hyn," meddai.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd6 Rhagfyr 2018
- Cyhoeddwyd7 Rhagfyr 2018
- Cyhoeddwyd21 Ebrill 2018