Carwyn Jones i gamu o'r neilltu fel arweinydd yn yr hydref

  • Cyhoeddwyd
carwyn jones

Mae'r Prif Weinidog Carwyn Jones wedi dweud y bydd yn camu o'r neilltu fel arweinydd y blaid Lafur yng Nghymru yn yr hydref.

Wrth annerch cynhadledd ei blaid yn Llandudno, dywedodd ei fod wedi "gofyn gormod o'i deulu" ac y byddai nawr yn cael cyfle i dreulio mwy o amser gyda nhw.

"Gynhadledd, dyma'r tro olaf y bydda i'n eich annerch chi fel arweinydd y blaid," meddai.

"Rydw i'n bwriadu camu o'r neilltu erbyn yr hydref, gan olygu y bydd prif weinidog newydd yn gallu cymryd eu lle erbyn diwedd y flwyddyn."

Disgrifiad,

Vaughan Roderick yn pwyso a mesur pwy allai olynu Carwyn Jones

Pwysau

Daeth Mr Jones yn brif weinidog Cymru yn 2009 yn dilyn ymddeoliad Rhodri Morgan, gan drechu Edwina Hart a Huw Lewis i'r arweinyddiaeth.

Ond mae wedi bod dan bwysau sylweddol dros y misoedd diwethaf, yn dilyn marwolaeth y cyn-weinidog Carl Sargeant ym mis Tachwedd, ddyddiau wedi iddo gael ei ddiswyddo o gabinet Mr Jones.

Ar drothwy'r gynhadledd fe ysgrifennodd gyfreithwyr teulu Carl Sargeant lythyr yn cyhuddo'r prif weinidog o achosi "gofid sylweddol" iddyn nhw.

Bydd ymchwiliad gan y QC Paul Bowen yn edrych ar yr amgylchiadau ynghlwm â marwolaeth Mr Sargeant, ond dyw hwnnw ddim wedi dechrau eto.

Yn ei araith, fe gyfeiriodd Mr Jones at y pwysau diweddar arno, gan ddweud: "Dwi ddim yn meddwl y gall unrhyw un wybod sut mae'r misoedd diwethaf wedi bod, oni bai am Lisa [ei wraig] a'r plant."

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Carolyn Harris AS fod Carwyn Jones wedi bod yn "arweinydd hollol, hollol wych" ar Lafur Cymru

Dywedodd AC Pen-y-bont fod y misoedd yn dilyn marwolaeth Carl Sargeant wedi bod yn "gyfnod tywyll", gan ychwanegu y byddai ei ymadawiad yn cynnig "dechrau ffres" i'r blaid a'r wlad.

Cafodd mab Carl Sargeant, Jack, ei ethol i olynu ei dad yn sedd Alun a Glannau Dyfrdwy yn gynharach eleni.

Yn dilyn cyhoeddiad y prif weinidog, dywedodd wrth BBC Cymru: "Does dim byd yn newid. Mae'r ymchwiliadau yn parhau i fod yn berthnasol ac fe ddylen nhw barhau."

Olynydd posib

Dywedodd arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, Andrew RT Davies ei fod yn "deall ei resymau" dros adael a'i fod wedi gwneud "cyfraniad sylweddol i fywyd cyhoeddus yng Nghymru".

"Mae digwyddiadau diweddar wedi taflu cysgod dros wleidyddiaeth Cymru a does dim amheuaeth fod colli cydweithiwr a ffrind wedi cael effaith fawr ar y prif weinidog, fel y mae wedi ar bawb."

Yn ei hymateb hithau dywedodd arweinydd Plaid Cymru, Leanne Wood ei bod hi'n "llongyfarch" Carwyn Jones ar ei naw mlynedd wrth y llyw.

Disgrifiad,

Arweinyddiaeth Llafur: Drakeford am 'feddwl drwy popeth' cyn penderfynu

Ond ychwanegodd fod yr economi a gwasanaethau cyhoeddus wedi gwaethygu yn ystod y cyfnod hwnnw a bod "angen mwy na dim ond newid arweinydd ar Gymru".

Mae'r Ysgrifennydd Cyllid, Mark Drakeford wedi dweud wrth BBC Cymru ei fod yn ystyried o ddifrif a fydd yn sefyll fel yr arweinydd nesaf, ond fod angen iddo "siarad â'i deulu" yn gyntaf.

Mae Mike Hedges wedi dweud y byddai'n cefnogi Mr Drakeford petai'n sefyll, tra bod Huw Irranca-Davies wedi dweud ei fod yn ystyried y peth.

Dywedodd Jeremy Miles y byddai'n aros i weld pwy arall oedd yn rhoi eu henw yn yr het, ac mae Alun Davies wedi dweud y bydd yn aros i weld.

Ond wnaeth yr Ysgrifennydd Iechyd, Vaughan Gething ddim datgan unrhyw fwriad gan ddweud: "Dwi ddim eisiau siarad heddiw am beth sy'n mynd i ddigwydd yn y dyfodol."