Oedi pleidlais Brexit: ASau eisiau pleidlais diffyg hyder
- Cyhoeddwyd
Mae ASau Llafur o Gymru wedi dweud ei bod hi'n bryd trafod pleidlais o ddiffyg hyder yn y Prif Weinidog Theresa May yn dilyn pryderon am oedi i'r bleidlais ar Brexit.
Wrth siarad yn Nhŷ'r Cyffredin brynhawn Llun, dywedodd Mrs May na fydd y bleidlais ddydd Mawrth ar ei chytundeb Brexit yn mynd yn ei blaen.
Yn sgil hynny mae rhai o'r aelodau Llafur, Plaid Cymru a'r Democratiaid Rhyddfrydol wedi galw am gynnal refferendwm arall ar adael yr Undeb Ewropeaidd.
Ond yn ôl yr AS Ceidwadol David Jones bydd oedi'r bleidlais yn gyfle i Mrs May "fynd yn ôl i Frwsel... i geisio dod i gytundeb ar rywbeth gwell".
Pryderon am y backstop
Fe wnaeth Mrs May roi gwybod i ASau am yr oedi i'r bleidlais mewn datganiad am 15:30.
Yn dilyn hynny bydd datganiad gan Arweinydd y Tŷ, Andrea Leadsom, ac yna datganiad gan yr Ysgrifennydd Brexit Stephen Barclay ar Erthygl 50.
Roedd disgwyl y byddai'r llywodraeth wedi colli'r bleidlais ar y cytundeb drafft yn drwm, gyda Llafur yn ogystal â nifer o aelodau meinciau cefn y Ceidwadwyr yn ei wrthwynebu.
Fe wnaeth Mrs May gydnabod hynny ar ddechrau ei datganiad, gan fynnu fodd bynnag bod "cefnogaeth eang" i'r rhan fwyaf o'i chytundeb.
Dywedodd ei bod yn ymwybodol fod gan nifer o ASau bryderon ynghylch y backstop - polisi yswiriant er mwyn sicrhau na fydd ffin galed yn Iwerddon os nad oes cytundeb fasnach gyda'r UE.
Ychwanegodd y byddai'n codi'r pryderon hynny a gweinidogion ym Mrwsel, ond mynnodd hefyd y byddai'n rhaid i'r backstop fod yn rhan o unrhyw gytundeb.
Caniatáu cynnwys Twitter?
Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Dywedodd y byddai cynnal refferendwm arall ar Brexit yn debygol o "hollti'r wlad eto", ac y byddai gadael yr UE heb gytundeb yn achosi trafferthion economaidd i lawer.
Wrth ymateb i ddatganiad y Prif Weinidog, dywedodd arweinydd Llafur y DU Jeremy Corbyn y dylai'r llywodraeth "gamu o'r neilltu" os nad oedden nhw'n llwyddo i ddychwelyd o Frwsel gyda bargen well.
'Llanast llwyr'
Mae nifer o ASau Llafur o Gymru wedi awgrymu eu bod yn credu mai nawr yw'r adeg i ddechrau'r broses o gynnal pleidlais o ddiffyg hyder yn Mrs May, allai ei disodli fel Prif Weinidog.
"Mae'r llywodraeth wedi datgan nad oes ganddyn nhw hyder yn eu hunig bolisi. Dylai'r Senedd drafod cynnig diffyg hyder ffurfiol yfory," meddai AS Rhondda, Chris Bryant mewn neges ar Twitter.
Mae sawl AS Llafur arall, gan gynnwys Tonia Antoniazzi ac Ian Lucas, wedi ategu'r farn honno a galw am etholiad cyffredinol neu bleidlais gyhoeddus arall ar Brexit.
"Dyma lanast llwyr. Amser cael y bleidlais, trechu ei chytundeb hi, a rhoi hyn yn ôl i'r bobl mewn Pleidlais i'r Bobl," meddai AS De Caerdydd a Phenarth, Stephen Doughty.
Ychwanegodd Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones fod y sefyllfa yn "draed moch".
"Dydyn ni ddim yn gwybod ble mae pethau'n mynd - does dim cyfeiriad i'r peth o gwbl," meddai wrth BBC Cymru.
Mae Plaid Cymru hefyd wedi galw am refferendwm arall, gan ddweud bod oedi'r bleidlais Seneddol yn brawf bod "ofn" ar Mrs May a'i bod yn ceisio osgoi "colled anochel".
"Mae'r Prif Weinidog yn gwrthod rhoi'r cyfle i'r cyhoedd leisio eu barn trwy Bleidlais i'r Bobl ac erbyn hyn mae'n gwrthod rhoi pleidlais i ASau hefyd," meddai arweinydd y blaid yn San Steffan, Liz Saville Roberts.
"Mae'n mynd yn erbyn democratiaeth."
Dywedodd Ms Saville Roberts y byddai Plaid Cymru'n cefnogi Jeremy Corbyn os oedd arweinydd Llafur y DU yn penderfynu galw am bleidlais o ddiffyg hyder yn Mrs May.
Ychwanegodd arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru, Jane Dodds, fod ymdriniaeth Llywodraeth y DU o Brexit wedi bod yn "embaras cenedlaethol", gan ategu'r galwadau am bleidlais arall.
'Cyfle i drafod eto'
Dywedodd AS Ceidwadol Gorllewin Clwyd, David Jones ei fod yntau'n credu bod oedi'r bleidlais yn "arwydd o golled i'r llywodraeth".
Ond mynnodd cyn-Ysgrifennydd Cymru a'r cyn-weinidog Brexit fod hynny'n golygu cyfle i drafod eto gyda'r Undeb Ewropeaidd.
"O edrych ar bethau mor bositif ac y gall rhywun, mae'n golygu bod gan y llywodraeth gyfle i fynd yn ôl i Frwsel a dweud na fydd y Cytundeb Ymadael yn cael ei gymeradwyo gan y Senedd, ac i geisio dod i gytundeb ar rywbeth gwell," meddai.
Roedd Mr Jones wedi dweud y byddai'n pleidleisio yn erbyn cytundeb presennol y Prif Weinidog, ond dywedodd y gallai newid ei feddwl a chefnogi Mrs May pe bai hi'n sicrhau "bargen well".
"Byddai'n rhaid iddo fod yn rhywbeth sydd ddim yn peryglu cyfanrwydd y DU - byddai'r cytundeb diwethaf mwy neu lai wedi troi Gogledd Iwerddon yn drefedigaeth o'r UE," meddai.
"Ond mwy na hynny, rydyn ni eisiau perthynas gall gyda'r UE, rhywbeth sydd wedi'i sefydlu ar egwyddorion masnach rydd."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd4 Rhagfyr 2018
- Cyhoeddwyd3 Rhagfyr 2018
- Cyhoeddwyd27 Tachwedd 2018